Galw am ddatganoli treth awyr, ond gyda gofal

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r dreth wedi'i datganoli'n llawn neu'n rhannol i'r Alban a Gogledd Iwerddon

Dylai treth ar hedfan gael ei rheoli yn y Cynulliad, nid yn San Steffan, yn 么l pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Ond byddai'n rhaid defnyddio'r pwerau'n ofalus oherwydd pryder am allyriadau carbon awyrennau, meddai'r pwyllgor.

Mae gweinidogion Cymru eisiau rheolaeth dros Dreth Teithwyr Awyr (APD), ac maent wedi dweud y byddai torri'r dreth yn helpu maes awyr Caerdydd, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Dywed y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nh欧'r Cyffredin y dylai'r dreth, sydd wedi'i datganoli'n llawn neu'n rhannol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, gael ei datganoli'n llawn i Gymru erbyn 2021.

Dywedodd gweinidog economi Llywodraeth Cymru y byddai gostyngiad treth yn elwa'r ardal ond y dylid ystyried goblygiadau amgylcheddol.

Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn dweud ei fod yn "synhwyro" newid cynnil ym mholisi Llywodraeth Cymru.

Er i'r llywodraeth ddweud yn flaenorol y byddent yn torri neu'n diddymu'r dreth, mae gweinidogion yn bod yn fwy gofalus bellach, gan ddweud y byddai angen "asesiadau effaith amgylcheddol" yn gyntaf.

Mewn adroddiad, pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd asesu effaith ar yr amgylchedd pe bai pwerau'n cael eu datganoli.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi rhoi'r gorau i gynlluniau i dorri'r dreth ar 么l datgan argyfwng yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud datganiad tebyg yma.

'Dadl dros datganoli'n argyhoeddi'

Ar 么l clywed tystiolaeth wrthgyferbyniol am yr effaith ar faes awyr Bryste - cystadleuydd agosaf Caerdydd - doedd yr aelodau seneddol ddim yn "argyhoeddedig" byddai Bryste "yn dioddef niwed sylweddol a pharhaol".

Dywedodd maes awyr Caerdydd ynghyd 芒 chwmn茂au hedfan y byddai toriad treth yn cynyddu nifer y teithwyr hyd at 600,000 erbyn 2025.

Ond roedd pryder na fyddai toriad treth o fudd i bobl yng nghanolbarth a gogledd Cymru, sy'n fwy tebygol o hedfan o feysydd awyr yn Lloegr.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies, AS Ceidwadol Mynwy: "Nid wyf yn aml wedi fy mherswadio gan ddadleuon dros ddatganoli, ond roedd y dystiolaeth a glywodd fy mhwyllgor am fanteision datganoli APD yn gwbl argyhoeddiadol."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ei bod yn croesawu argymhelliad y pwyllgor.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson nad oes cyfiawnhad dros drin Cymru'n wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran datganoli'r Dreth Teithwyr Awyr," meddai.

Galwodd ar Lywodraeth y DU i weithredu'r argymhelliad a datganoli'r pwerau erbyn 2021.

Disgrifiad o'r llun, Mae safbwynt Mr Skates o naws wahanol i farn y cyn-brif weinidog Carwyn Jones, a fyddai wedi hoffi cael gwared ar dreth ar deithiau hir

Yn 么l Gweinidog yr Economi, Ken Skates, ni ddylid torri treth ar hedfan oni bai ei fod yn annog teithwyr i hedfan o Gaerdydd yn hytrach nag o feysydd awyr eraill.

Ond wrth i'r llywodraeth gyhoeddi eu bod am weld toriad o 95% mewn allyriadau nwyon t欧 gwydr erbyn 2030, mae'r effaith amgylcheddol ar flaen meddwl Mr Skates.

"Dylai gwrthbwyso mwy o allyriadau carbon a gr毛wyd gan fwy o hediadau gyda siwrneiau car byrrach," meddai Mr Skates.

Eglurodd bod y llywodraeth o blaid datganoli'r dreth gan ddweud y byddai'n "gwneud Caerdydd yn lot fwy cystadleuol".

Ond dywedodd y "byddai'n rhaid mesur a fyddai cyfraddau cynyddol neu ostyngol o dreth yn gyrru neu'n denu mwy o ddefnyddwyr i faes awyr Caerdydd, ac os byddai hynny yn ei dro yn arwain at lai o allyriadau carbon ar ein ffyrdd".

'Achos cryf'

Mae'n ailadrodd yr alwad ar Lywodraeth y DU i ganiat谩u mwy o hediadau o Gaerdydd i Lundain a Manceinion.

Mae Cyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Barber hefyd yn croesawu'r adroddiad gan ddweud ei fod yn "achos cryf".

Galwodd ar Lywodraeth y DU i "gymryd yr argymhellion o ddifrif" gan y byddai gostyngiad treth yn rhoi hwb i'r ardal.

"Gyda Brexit ar y gorwel, dylai'r DU achub ar y cyfle a datblygu atebion i fod yn fwy cystadleuol, ysgogi buddsoddiad ac annog cysylltedd byd-eang."