麻豆官网首页入口

Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn wynebu ansicrwydd ariannol

  • Cyhoeddwyd
Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan y brifysgol dri safle yng Nghymru ynghyd 芒 safleoedd yn Llundain a Birmingham

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) yn wynebu ansicrwydd ariannol allai godi amheuon yngl欧n 芒'i dyfodol.

Mae cyfrifon diweddaraf y sefydliad yn dangos ei bod yn bosib nad oes digon o arian i barhau fel busnes gweithredol pe na bai rhai ffynonellau incwm yn cael eu gwireddu.

Dywedodd PCDDS nad oes "sefyllfa ddifrifol" a'i bod yn "ymateb i risg".

Mae wedi cadarnhau ei bod yn prosesu 110 o ddiswyddiadau posib, a bron 芒 chwblhau proses ailstrwythuro er mwyn arbed 拢6.5m.

Mae'r brifysgol wedi derbyn 94 o geisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol ac wedi gwneud 16 o ddiswyddiadau gorfodol, ond dywedodd ei bod yn gweithio gyda staff ac undebau i leihau'r angen am ddiswyddiadau o'r fath.

'Ansicrwydd sylweddol'

Mae PCDDS wedi'i lleoli ar draws tri safle yng ngorllewin Cymru - Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Abertawe - ac mae'n cyflogi 1,500 o bobl.

Roedd ganddi dros 10,000 o fyfyrwyr yn 2017/18.

Rhybuddiodd y cyfrifon bod ansicrwydd dros bedair ffynhonnell incwm. Os nad yw cyfuniad ohonynt yn cael eu gwireddu gallai arwain at "ansicrwydd sylweddol" o ran cyllid y sefydliad.

Mae cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 17/18 yn dangos bod y pryderon yn ymwneud 芒:

  • Grant sylweddol tuag at y gost o ddatblygu eiddo yn 2018 sydd wedi ei ohirio;

  • Gwerthiant eiddo, sy'n amodol ar ganiat芒d cynllunio, sydd hefyd wedi'i ohirio;

  • Arbedion terfynol y broses ailstrwythuro;

  • Ansicrwydd, sy'n berthnasol i bob prifysgol, ynghylch cofrestru a chadw myfyrwyr.

Roedd cyfrifon yn dangos hefyd fod rhaid aildrefnu benthyciad banc o 拢30m gan HSBC ar gyfer datblygiad ar lan y d诺r yn Abertawe, oherwydd ei fod wedi torri un o'r amodau.

Nid oes unrhyw brifysgol arall yng Nghymru wedi cynnwys datganiad tebyg yn adroddiadau archwilio eu cyfrifon yn y blynyddoedd diwethaf, yn 么l swyddogion cyllid addysg uwch.

'Ymateb i risg'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran PCDDS: "Nid oes sefyllfa ddifrifol. Mae'r brifysgol yn ymateb i risg.

"Mae'r ansicrwydd presennol y mae'r brifysgol yn ei wynebu yn gysylltiedig ag amseriad derbyn grant. Mae hwn yn fater dros dro y mae'r Brifysgol yn delio ag ef.

"Yn unol 芒 llywodraethu da, mae'r brifysgol wedi nodi'r risg, fel sy'n rheidrwydd arni i wneud yn ei chyfrifon ariannol, ac mae'n rheoli'r sefyllfa. Nid yw dyfodol y brifysgol yn ansicr.

"Fel rhan o'i strategaeth barhaus o gyfnerthu a diogelu ei chenhadaeth strategol mae'r brifysgol wedi lansio cyfres o fentrau i gryfhau arbenigrwydd ei harlwy ynghyd 芒 chyfrannu'n well at heriau economaidd a chymdeithasol Cymru ynghyd 芒 sicrhau ei gwytnwch yn y dyfodol wrth iddi barhau i wasanaethu ei dysgwyr a'i rhanddeiliaid."

Y brifysgol sydd yn gyfrifol am ddatblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ac mae cam cyntaf y prosiect wedi ei gwblhau gyda phencadlys S4C bellach ar agor.

Mae ganddi gampws yn Llundain hefyd a chanolfan addysgu yn Birmingham gafodd ei hagor ym mis Mawrth 2018.