Y ddynes o Gaerdydd sy'n helpu pobl i ffeindio cariad ar First Dates

Mae Jacci Parry o Gaerdydd newydd ddychwelyd o'r Eidal, lle bu'n gweithio ar y gyfres First Dates Hotel.

Bu'n siarad 芒 Cymru Fyw am ei gwaith o helpu pobl i ddod o hyd i gariad, ac am y dyletswydd i ofalu am gyfranwyr, wrth weithio ar un o gyfresi mawr Channel 4.

Ffynhonnell y llun, Jacci Parry

Pam gweithio ar gyfresi First Dates a First Dates Hotel?

I fi, dod 芒 phobl at ei gilydd a'u gweld nhw yn dod o hyd i gariad yw'r peth pwysig. Mae'n swnio yn 肠濒颈肠丑茅, ond mae'n rhywbeth arbennig i fod yn rhan ohono. Mae sawl un o'r parau dwi wedi gweithio 芒 nhw wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cario mlaen i weld ei gilydd, a mae hwnna'n teimlo'n lyfli.

Dyna beth sy'n mynd 芒 fi yn 么l at y gyfres drosodd a throsodd.

Er bod yr oriau gwaith yn boncyrs, ni'n gweithio tua 14 i 15 awr y dydd. Mae gweld pobl o bob cefndir, fydde byth fel arfer yn cymysgu, yn cyfarfod 芒'i gilydd yn hyfryd.

Beth yw dy r么l di?

Roeddwn i'n uwch gynhyrchydd ar y rhediad diweddara' o raglenni First Dates Hotel, ond mae'n d卯m enfawr. Mae o leia 11 o gynhyrchwyr/cyfarwyddwyr, tri uwch gynhyrchydd, cynhyrchydd cyfres a golygydd, heb s么n am y t卯m cynhyrchu.

Beth yw'r broses o baru pobl?

I ddechrau rydw i'n cyfweld 芒'r cyfranwyr posib trwy eistedd gyda nhw am tua dwy awr, yn archwilio'n fanwl beth maen nhw eisiau allan o'r d锚t, beth yw eu stori nhw a'u gobeithion a hefyd beth yw hanes eu perthynas nhw gyda phobl yn y gorffennol.

Byddwn yn dilyn hyn wedyn gyda chyfweliad skype, ac yna'n siarad ar y ff么n. Rydyn ni angen gwybod pa mor agored yw'r bobl i wahanol fathau o bobl a phosibiliadau, ac mae 'na lawer o wiriadau yn cael eu gwneud. Fy swydd i ydy i ymchwilio a chwestiynu popeth, felly mae'n broses hir sy'n gallu cymryd wythnosau.

Mae'n teimlo'n anthropolegol, ac er mai rhaglen deledu yw hi, y peth pwysica' i ni yw i bobl ffeindio cariad ar y rhaglen. A rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud hynny i ddigwydd.

Beth ydych chi'n eu hystyried wrth ddod 芒 phobl at ei gilydd ar dd锚t?

Mae'n broses fwy trylwyr na dating agencies. Ni'n dod 芒 phobl sydd 芒 diddordebau tebyg at ei gilydd, neu waith penodol. Mae pobl yn bondio dros eu cariad tuag at rhywbeth penodol, er enghraifft hoff anifail.

Efallai y byddwn ni'n eu paru nhw am eu bod nhw'n rhannu stori bywyd debyg, wedi colli rhywun sy'n agos iddyn nhw neu bod y ddau yn ddibrofiad mewn perthynas. Mae'n rhaid i'r person deimlo'n gyfforddus i allu dweud eu stori.

Ac os oes rhywun yn dweud 'dwi ond yn mynd ar dd锚t gyda dyn 芒 barf- yna byddwn ni wastad yn dewis rhywun 芒 barf i'r person hynny!

Mae'r broses o ddod 芒 phobl at ei gilydd yn ddiddorol iawn, achos fe allwch chi gael y person mwya' deniadol yn y byd, ac ar bapur yn match perffaith, ond os nad oes cemeg, does dim gobaith i'r berthynas fynd i unrhyw le, a mae hynny'n digwydd hefyd.

Ffynhonnell y llun, Channel 4

Disgrifiad o'r llun, Y gweithwyr yn y First Dates Hotel

Beth sy'n digwydd ar 么l y d锚t?

Rydyn ni'n rhoi galwad ff么n i'r unigolion o fewn 24 awr i'r ffilmio, ac eto rhai dyddiau ac wythnosau yn ddiweddarach. Os ydy'r cwpwl wedi bod yn llwyddiannus yn ffeindio cariad, rydyn ni'n gofyn am lun neu fideo i'w ddangos ar ddiwedd y rhaglen.

Rydyn ni eisiau gwneud yn si诺r fod pawb yn hapus 芒'r ffordd maen nhw wedi cael eu trin, y ffordd y deliwyd gyda'u stori nhw a'r ffordd y gallwn ni ddelio ag unrhyw gwyn. Os oes rhywun heb fwynhau eu d锚t, maen nhw'n gallu teimlo 'pam ges i fy mharu gyda'r person yna?', ond weithiau mae am reswm doedd dim modd ei ragweld.

'Dyletswydd i'r cyfrannwr'

Oherwydd natur y gyfres [First Dates], mae cyfranwyr yn rhannu straeon personol iawn, ac fel gydag unrhyw raglen ddogfen y byswn i'n gweithio arni, mae yna ddyletswydd arnoch chi i ofalu am eich cyfranwyr, a'r bobl o'u cwmpas nhw.

Gall rywun fod yn dweud stori am gael eu twyllo gan eu g诺r, er enghraifft, yna mae'n rhaid i ni fod yn ofalus beth ni'n ei ddatgelu. Mae'n rhaid i ni ofalu, nid yn unig am y person sy'n eistedd gyferbyn ar y bwrdd, ond hefyd y person maen nhw'n siarad amdano. Mae'n rhaid i ni feddwl am bopeth.

Mae cynhyrchydd yn siarad 芒 phawb cyn i'r rhaglen fynd allan iddyn nhw gael gwybod beth sy'n cael ei ddarlledu.

Pa mor bwysig ydy'r gofal ar 么l i'r gwaith ffilmio ddod i ben?

Mae gofalu am dy gyfranwyr wastad yn flaenoriaeth, dyna sy'n gyrru'r gyfres. Dwi'n cael fideos a negeseuon gan bobl sy'n dweud eu bod nhw wedi cael profiad arbennig ac am ddiolch i bawb sy'n gweithio ar y t卯m. I fi, y clod mwya' yw bod y bobl yn falch eu bod nhw wedi cymryd rhan.

Os nad ydw i'n gallu bod mewn cysylltiad gyda rhywun ar 么l i ni orffen ffilmio, yna mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Ti'n ffurfio perthynas gyda rhywun, sydd yn hir dymor.

Dwi wedi gweithio ar gyfresi fel One Born Every Minute, Celebrity Call Center a The Undateables, rhaglenni sydd 芒 gwerthoedd uchel yn fy marn i, a bydde nhw heb gael y llwyddiant maen nhw wedi cael os oedd y cyfranwyr ddim yn hapus.

Hefyd o ddiddordeb: