麻豆官网首页入口

Dicter Prifysgol Glynd诺r wedi i gyngor wrthod cynllun tai

  • Cyhoeddwyd
Campws 2025Ffynhonnell y llun, Prifysgol Glynd诺r Wrecsam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai prosiect Campws 2025 y brifysgol yn costio tua 拢60m

Mae Prifysgol Glynd诺r wedi anfon llythyr at gynghorwyr Wrecsam yn datgan eu siom ar 么l i elfennau allweddol o gynlluniau i ailwampio'r coleg gael eu gwrthod.

Cafodd saith allan o naw cais cynllunio gan y brifysgol eu cefnogi fel rhan o brosiect Campws 2025 gwerth 拢60m.

Ond fe wrthodwyd cynigion i werthu dau blot o dir.

Dywedodd yr is-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar, fod hynny'n "eithriadol o siomedig", gan ddweud fod gwerthu'r tir ar gyfer codi tai yn allweddol er mwyn ariannu'r prosiect.

Roedd y brifysgol eisiau gwerthu tir pori ym Mrychdyn Newydd a Rhosnesni, gyda chaniat芒d cynllunio ar gyfer 200 o gartrefi.

Ond ddydd Llun, fe wrthododd pwyllgor cynllunio Wrecsam y cynlluniau tai ar 么l i swyddogion priffyrdd rybuddio y byddai cynnydd "sylweddol" yn y ciwiau traffig, a bod preswylwyr yn gwrthwynebu colli man agored.

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y brifysgol eisiau gwerthu tir pori ym Mrychdyn Newydd, Wrecsam

Byddai'r saith prosiect a dderbyniodd gefnogaeth y cyngor yn galluogi'r brifysgol i ddymchwel ac ailwampio cyfleusterau dysgu ar gampws Plas Coch ar Ffordd yr Wyddgrug, yn ogystal 芒 choleg celfyddydau ar Regent Street.

Byddai mwy na 700 o ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr a gweithwyr allweddol hefyd yn cael eu creu.

Ond rhybuddiodd yr Athro Hinfelaar y byddai pobl ifanc dawnus yn cael eu colli o'r gogledd os na fyddai modd ariannu'r cynlluniau.

'Gwastraffu cyfle'

"Os nad yw ein cyfleusterau yn ddigon da, yna mae gan y myfyrwyr hyn ddigon o ddewisiadau amgen mewn prifysgolion ledled y DU," ysgrifennodd.

Ychwanegodd yr is-ganghellor fod y brifysgol "mewn sefyllfa dda" i gyflwyno ap锚l yn erbyn gwrthod y cynlluniau tai, gan annog y cyngor i ailystyried.

"Yn syml, mae'n anfoddhaol cymeradwyo cynigion sy'n costio arian sylweddol ac yna gwrthod cynigion sy'n helpu i'w hariannu - yn enwedig os yw'r rhain yn cyd-fynd yn dda 芒 chynlluniau ehangach ar gyfer yr ardal," ysgrifennodd.

"Dylai hyn fod wedi bod yn 'win-win', ond mae'r cyfle hwnnw wedi'i wastraffu - am y tro."

Mae Cyngor Wrecsam wedi cael cais am sylw.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Wrecsam, Ian Bancroft bod "pob cais wedi'u hystyried ar wah芒n".

"Rydym yn gefnogol iawn o gynllun Campws 2025 Prifysgol Glynd诺r ond ni allwn adael i'r gefnogaeth hynny gael effaith neu ddylanwad ar y broses gynllunio annibynnol," meddai.