Ymgeiswyr arweinyddol y Ceidwadwyr yn addo arian i Gymru

Disgrifiad o'r llun, Dyma oedd yr unig hystings yng Nghymru cyn yr etholiad i ddewis arweinydd newydd i'r Blaid Geidwadol

Mae'r ddau ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol wedi addo rhoi arian i Gymru i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn mynd wedi Brexit.

Erbyn 2020 fe fyddai Cymru wedi derbyn cyfanswm o dros 拢5bn o arian adeileddol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Boris Johnson y byddai'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn yr oedd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd, ond fe awgrymodd y byddai gan ei lywodraeth rywfaint o ddylanwad ar sut y byddai'n cael ei wario.

Fe fyddai'n syniad da i'r Ceidwadwyr gadw llygaid ar werth am arian, meddai wrth y gynulleidfa.

Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o arian Ewropeaidd yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.

Disgrifiad o'r fideo, Alun Cairns yn amddiffyn polisi Boris Johnson ar arian cyfatebol

Dywedodd Jeremy Hunt wrth y cyfarfod o aelodau'r blaid yng Nghanolfan yr Holl Gynghreiriau yng Nghaerdydd y byddai e, fel Prif Weinidog, yn sicrhau na fyddai Cymru ar eu colled.

Wrth annerch y dorf a ddaeth i'r cyfarfod dywedodd Mr Johnson bod angen gwyrdroi'r penderfyniad i beidio 芒 bwrw ymlaen gyda ffordd osgoi newydd i'r M4 ger Casnewydd, ac y byddai'n erfyn ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i ailystyried.

Fe wnaeth y ddau ateb cwestiynau gan aelodau'r blaid am yn ail.

Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi addo rhannu arian gyda'r gwledydd datganoledig o gronfa gyllid newydd - ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am beidio ag esbonio sut y byddai hynny'n gweithio.

Disgrifiad o'r llun, Aeth Mr Johnson am dro i lan y m么r yn y Barri cyn y cyfarfod yng Nghaerdydd nos Sadwrn

Dywedodd Mr Johnson: "Gallaf roi'r sicrwydd pendant y bydd y gronfa ffyniant yn cael ei ddyrannu'n llawn i Gymru.

"Rwy'n credu y gallai fod rhywfaint o gwestiwn ynghylch sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu, neu gan bwy.

"Hoffwn sicrhau bod dylanwad ceidwadol cryf ar y gwariant hwnnw i sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian i'r trethdalwr."

Wrth ymateb i'r un cwestiwn dywedodd Mr Hunt: "Wrth gwrs, rydym yn mynd i sicrhau bod pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn elwa o'r arian ychwanegol hwnnw.

"Efallai y byddai un gronfa arian yn llai ond byddai mwy o arian mewn cronfa arall wedyn.

"Byddaf yn gwneud yn si诺r, fel prif weinidog, nad yw Cymru ar ei cholled."