麻豆官网首页入口

Maes Awyr Caerdydd yn 'wastraff arian' medd AC Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gwastraffu degau o filiynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr ar Faes Awyr Caerdydd, sy'n parhau i wneud colled ariannol, yn 么l AC Ceidwadol.

Mae Darren Millar yn dweud fod y maes awyr fel "prosiect balchder" ac mae rhaid iddo ddechrau gwneud arian neu gael ei werthu.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr yn 2013 am 拢52m, yn dilyn cwymp mewn niferoedd y teithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates bod y maes awyr "wedi cael ei brynu mewn cyfnod lle'r oedd angen gwelliannau mawr, a dyna be mae'r t卯m ardderchog yma wedi ei gyflawni".

'Rhy ddrud'

Yn ogystal 芒'r arian i brynu'r safle, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu degau o filiynau yn fwy o fenthyciadau sydd nawr yn cael eu had-dalu.

Roedd y golled cyn treth hyd at ddiwedd Mawrth 2018 yn 拢6.6m sydd yn fwy na'r un cyfnod yn 2017 pan oedd y ffigwr yn 拢5.9m. 拢4.8m oedd y ffigwr yn 2016 .

Ar 么l pum mlynedd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, mae AC Gorllewin Clwyd, Mr Millar yn credu nad yw'r trethdalwyr yn cael cytundeb teg.

"Mae'n debyg ein bod ni wedi cael maes awyr sy'n rhy ddrud ac sy'n tangyflawni.

"Mae'n edrych i mi fod degau o filiynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu gan Llywodraeth Llafur Cymru, drwy brynu maes awyr sy'n edrych mwy fel prosiect balchder", meddai wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Darren Millar yn dweud fod y maes awyr fel "prosiect balchder" a bod yn rhaid iddo ddechrau gwneud arian neu gael ei werthu

Mae niferoedd y teithwyr nawr yn cynyddu ychydig ac mae'r maes awyr yn dweud fod sicrhau cwmn茂au fel Qatar Airways yn allweddol i adeiladu busnes newydd.

Maen nhw hefyd yn dweud fod llinyn mesur perfformiad (EBITDA) sef arian cyn treth, dibrisiant ac amorteiddio wedi mynd i'r du am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd.

Er bod hyn yn ddigwyddiad o bwys, yn 么l rhai buddsoddwyr, mae'n rhaid oedi cyn rhoi gormod o bwyslais ar y mesur yma.

'Cyfnod anodd'

Dywedodd Justin Urquhart Stewart sy'n gweithio i gwmni rheoli buddsoddiadau fod angen bod yn "ofalus ar yr hyn yr ydych yn edrych arno. Edrychwch ar y dadansoddiadau, ydyn nhw'n gyson?"

Mae'r arbenigwr trafnidiaeth Simon Calder wedi dweud "nad yw maes awyr Caerdydd yn gwneud yn wych iawn."

Dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Bowen Rees: "Mae'r maes awyr wedi bod drwy gyfnod anodd o adferiad yn y pum mlynedd diwethaf.

"Rydym wedi buddsoddi i ddatblygu ein cyfleusterau a'n perthynas gyda chwmn茂au awyr gyda'r bwriad o greu busnes sy'n gynaliadwy.

"O ran perchnogion y dyfodol, rydym yn ffocysu ar sicrhau'r cynaliadwyedd ac i sicrhau gwerth economeg i Gymru," meddai.

'Diffyg balchder yng Nghymru'

Dywedodd y llefarydd ar ran Mr Skates: "Mae sylwadau Darren Miller yn adlewyrchu diffyg dealltwriaeth ofnadwy o fusnes a balchder yng Nghymru.

"Mae gennym ni bellach faes awyr cenedlaethol sydd ymysg y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, gyda niferoedd y teithwyr yn cynyddu yn gyson ers i ni gymryd rheolaeth yn 2013.

"Mae'n gyfnod lle mae'r maes awyr wedi chwarae r么l ganolog wrth i Gymru lwyddo i ddenu digwyddiadau rhyngwladol o bwys, gan gynnwys Uwchgynhadledd NATO a rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr."

Ychwanegodd: "Efallai bod y Ceidwadwyr yn meddwl ei fod yn 'wastraff arian' a'u bod nhw'n barod i adael teithwyr, busnesau a digwyddiadau i lawr, ond rydyn ni'n gwrthod ymddiheuro am gefnogi Maes Awyr Caerdydd."