麻豆官网首页入口

Mwy o arian i ardaloedd tlawd wedi Brexit?

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, slovegrove/Getty Images

Gallai rhannau tlawd o Gymru sydd ddim yn gallu derbyn grantiau lefel uchaf yr UE ar y funud, gael mwy o arian ar 么l Brexit.

Mae'r cyn-weinidog Guto Bebb yn credu y dylai ardaloedd difreintiedig sydd ddim yn gymwysedig ar hyn o bryd fod yn gymwys o dan y cynllun am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Byddai'n golygu rhwygo'r map sydd wedi gosod gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn flaenoriaeth am arian yn y gorffennol.

Mae gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'n ffafrio ffocws ar angen ardaloedd.

Cronfa Amcan Un

Am bron i 20 mlynedd mae prosiectau yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi cymhwyso ar gyfer gronfa Amcan Un, y lefel uchaf o ariannu o'r UE.

Ond pan luniwyd y map, cafodd saith ardal cyngor eu heithrio, gan gynnwys Powys.

Dywedodd Mr Bebb nad oedd yn beirniadu sut y gwnaethpwyd hyn gan ei fod yn golygu bod Cymru wedi denu arian ychwanegol gan yr UE ond bod y ffiniau "braidd yn artiffisial" ac nid yw'n credu bod yr arian yn cael ei wario'n dda ym mhob achos.

"Os ydym am ddatblygu cronfa ffyniant i'r DU, mae'n naturiol ein bod yn edrych ar y ffiniau," ychwanegodd.

Yn ogystal 芒 Phowys, mae Aelod Seneddol Aberconwy yn cyfeirio at ogledd Cymru. Fyna mae chwe sir yn cydweithio ar adfywio economaidd ond tydi dau ddim yn gymwys ar gyfer Amcan Un.

Ond mae hefyd yn credu y dylai cyllid yn y dyfodol ffocysu llai ar ddaearyddiaeth a mwy ar them芒u fel technoleg a gwyddoniaeth, a fydd yn datblygu twf yn economi ehangach Cymru.

'Darlun cliriach'

Mae'n dod wrth i Geredigion - sy'n gymwys ar gyfer Amcan Un - weithio'n agos gyda'i gymydog Powys ar Fargen dwf newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion, fod y map ariannu presennol yn seiliedig ar ffigurau economaidd 20 mlynedd yn 么l.

"Yn ein barn ni, tydi cyfraddau tlodi mewn ardaloedd gwledig ddim yn cael eu cydnabod yn iawn.

"Maent yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) sy'n dweud wrthym fod y prif amddifadedd yn y cymoedd ond rwy'n credu fod incwm canolrifol yma yn is nag ym Merthyr Tudful.

"Felly, mae pwy sy'n mesur beth yn gwneud gwahaniaeth i sut mae pethau'n cael eu gweld hefyd.

"Mae angen darlun cliriach o ble mae tlodi gwirioneddol ac yn aml mae tlodi gwledig yn dlodi gudd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Guto Bebb fod y ffiniau "braidd yn artiffisial" ac nid yw'n credu bod yr arian yn cael ei wario'n dda ym mhob achos.

Mae manylion Fargen Twf Canolbarth Cymru yn dal i gael eu datblygu ond gobeithir y bydd portffolio o gynigion yn dod i'r amlwg yn yr hydref gyda thrafnidiaeth, band eang a chysylltedd yn cael eu hystyried yn ganolog.

Rhagwelir ffigwr o hyd at 拢 200m o gyllid gan y llywodraeth, gyda'r nod o greu 4,000 o swyddi.

Dywedodd Fiona Stewart, sy'n berchennog G诺yl y Dyn Gwyrdd ger Crucywel ac yn gynrychiolydd busnes ar Fargen Twf Canolbarth Cymru, y gallai Powys a Cheredigion elwa.

"Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw creu cyfle a chyfoeth a bydd cael pethau wedi'u rhannu mewn ardal gymharol fach yn cael effaith ar dwf ar y ddwy ochr."

Powys oedd 芒'r Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) isaf yr awr a weithiwyd o 174 o wahanol ardaloedd yn y DU yn 2017 - sef 65.2% o ffigur y DU, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yn Ystradgynlais, cyn ardal mwyngloddio ar ben deheuol Powys, amcangyfrifir bod traean o bobl ar incwm isel a chwarter yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig 芒 chyflogaeth.

Mae canol y pentref yn y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Ond ni all gael y lefel uchaf o arian yr UE.

2.5 milltir lawr y ffordd, mae pentref Ystalyfera. Mae 24% o'r boblogaeth fynna yn amddifad o incwm ac 17% ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig 芒 chyflogaeth, lefelau is na Ystradgynlais.

Er hynny mae'r pentref yn gymwys i gael cyllid Amcan Un, gan ei fod ar draws y ffin yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Ystradgynlais yn gymwys i dderbyn grantiau lefel uchaf yr UE

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, fod anghysondebau ar ddwy ochr ffin y map a dywedodd y byddai ffocws y gronfa ffyniant cyffredin ar yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf, ond ei bod hi'n ddyddiau cynnar.

"Mae angen i ni edrych ar sut rydym yn helpu'r cymunedau sydd angen cymorth y fwyaf.

"Yn draddodiadol, mae gan Ystradgynlais rai o'r problemau sy'n fwy cysylltiedig ag ardaloedd glofaol na gweddill Powys."

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates fod angen ar ddwy ochr y ffin bresennol a bod potensial i dargedu'n fwy effeithiol.

"Ar hyn o bryd rydym yn cael ein cyfyngu rhag buddsoddi yn y cymunedau hynny yn y dwyrain yn arbennig, lle mae tlodi dwfn," meddai.

"Gyda chyfundrefn cronfa strwythurol newydd sy'n ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar angen, byddwn yn gallu sicrhau y gallwn gymryd yr arian gwerthfawr hwnnw a'i fuddsoddi lle mae ei angen fwyaf."

A allai cymunedau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd golli allan?

'Diwedd prosiectau pwysig'

Mae'r Cynghorydd Dai Davies, aelod gweithredol adfywio a datblygu economaidd Blaenau Gwent yn cytuno y dylid targedu cyllid yn y dyfodol yn nol angen.

Ond os bydd ei ardal yn cael llai o arian, mae'n poeni am yr effaith ar raglenni fel Anelu'n Uchel, sy'n cynnig profiadau i brentisiaid lleol ar draws busnesau bach gwahanol, yn ogystal 芒 cholegau.

"Gallai fod yn ddiwedd prosiectau pwysig iawn i ni," meddai Mr Davies.

"Os na gawn yr arian, allwn ni ddim denu busnesau a gwella sgiliau'r bobl sy'n dod i'n colegau - mae'n hanfodol i ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw arweinydd Cyngor Ceredigion

Mae'r penderfyniad ynghylch pa gymunedau sydd 芒'r angen mwyaf yn gymhleth.

Os defnyddir "angen" i benderfynu pwy sy'n cael beth yn y dyfodol, mae'n anochel fydd na ddadlau ynghylch sut i benderfynu hynny.

Er mai Powys sydd 芒'r cynhyrchiant isaf o ran Gwerth Ychwanegol Gros yr awr a weithir, mae gan Flaenau Gwent un o'r lefelau isaf y pen.

Bydd dadl gref hefyd bod Trysorlys y DU - ffynhonnell yr arian - yn sicrhau bod pob punt a warir yn cael yr effaith fwyaf.