麻豆官网首页入口

AS Ceidwadol: 'Dim digon o Gymry yn y Swyddfa Gymreig'

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Davies ei fod yn hapus iawn i barhau fel cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig

Mae'r Aelod Seneddol David TC Davies wedi beirniadu ei lywodraeth am beidio recriwtio ASau Cymreig i swyddi gweinidogion iau yn Swyddfa Cymru.

Ddydd Gwener, cyhoeddwyd y bydd Kevin Foster - AS o Loegr, sydd 芒 dwy swydd arall - yn aros fel gweinidog yn Swyddfa Cymru newydd Boris Johnson.

Dywedodd Mr Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, fod dewis peidio rhoi AS Cymreig yn y r么l yn gyfle anffodus a gollwyd.

Roedd wedi "ei gwneud yn glir" fod ganddo ddiddordeb yn y r么l.

Dywedodd Robert Buckland sy'n wreiddiol o Lanelli ond sy'n AS dros de Swindon ers 2010 ac sydd newydd gael ei benodi'n Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Cyfiawnder yng nghabinet newydd y Prif Weinidog, Boris Johnson nad oedd yn "poeni ble oedd aelodau o swyddfa Cymru'n dod cyn belled a'i bod nhw'n angerddol ac eisiau ymladd dros Gymru."

Gofynnwyd i lywodraeth y DU am sylw.

Swyddfa Cymru... a Lloegr?

Ers i Guto Bebb benderfynu rhoi'r gorau iddi dros Brexit mae Llywodraeth y DU wedi llenwi swydd gweinidog Swyddfa Cymru gydag ASau Lloegr.

Ddydd Gwener, dywedodd y cynghorydd Tor茂aidd Richard John fod peidio recriwtio ASau Cymreig i Swyddfa Cymru, islaw Ysgrifennydd Cymru ac AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, yn "niweidiol" i "gymwysterau Cymreig" ei blaid.

Atebodd Mr Davies : "Efallai y dylai'r Swyddfa Gymreig gael ei hailenwi yn swyddfa Cymru a Lloegr i anrhydeddu llawer o ASau Lloegr sy'n gwneud cyfraniad mor fawr iddo!"

Dywedodd Mr Davies wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod unrhyw un sy'n gwasanaethu fel gweinidog yn y swyddfa yng Nghymru... yn deall bod hon yn r么l bwysig iawn, ac mae'r gwaith yw cyflawni dros Gymru ac ni ddylid ei ystyried yn rhyw fath o gam tuag at swydd arall yn rhywle arall."

Awgrymodd fod ei blaid "yn colli cyfle yma oherwydd rwy'n credu y dylai'r gweinidogion ddod o Gymru yn ddelfrydol".

'Braidd yn anffodus'

Mae ASau Ceidwadol eraill yng Nghymru a allai fod wedi "gwneud gweinidogion yr un mor dda yng Nghymru", meddai Mr Davies.

"Rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus os ydw i'n onest am y peth, ond rwy'n cydnabod bod Alun yn debyg o fod yn llais mawr o ran pwy y mae'n gweithio gyda nhw, ac mae'n rhaid i ni barchu ei ddymuniadau a'i hawl i benderfynu pwy ddylai fod yn ddirprwy iddo."

Efallai fod yna "lawer o rinweddau" sy'n ffurfio gweinidog da, meddai, "ac oherwydd nad ydw i wedi gwneud y r么l, ni allaf fod yn sicr beth ydyn nhw".

"Ond fe fyddwn i wedi meddwl o bosibl fy mod wedi gwasanaethu fel aelod o Gynulliad Cymru, fel AS Cymreig ers nifer o flynyddoedd, yn cadeirio'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a hyd yn oed yn siarad Cymraeg yn rhugl yn bethau y gellid eu gweld gan rai fel cymwysterau rhesymol.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gweinidogion hynny yn dangos ymrwymiad mawr i Gymru," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ceri Hughes ei bod wedi cael gorchymyn i siarad Saesneg yn KFC - rhywbeth a oedd yn "annerbyniol", yn 么l Mr Davies

Dywedodd hefyd y dylai'r Blaid Geidwadol "fod yn dangos arweinyddiaeth" ar faterion am yr iaith.

Yn ddiweddar, cafodd aelod o staff bwyty KFC ym Mangor ei "gorchymyn" i beidio siarad Cymraeg.

"Dylem fod yn ei gwneud yn gwbl glir bod hynny'n annerbyniol," meddai.

"Yn union fel rwyf wedi dweud erioed na ddylai pobl gael eu gorfodi i ddysgu Cymraeg, rwyf hefyd yn credu na ddylai pobl gael eu gorfodi i siarad Saesneg os nad ydyn nhw eisiau mewn sefyllfa fel hynny.

"Ond Plaid Cymru sy'n cymryd rhedeg ar y mater."