麻豆官网首页入口

Disgyblion Cymru yn disgwyl eu canlyniadau Safon Uwch

  • Cyhoeddwyd
arholiadau

Bydd miloedd o ddisgyblion yn derbyn canlyniadau Safon Uwch fore Iau.

Llynedd roedd cyfran y graddau gorau - A ac A* - ar ei huchaf ers degawd.

Mae 'na ostyngiad o 5% wedi bod yn y cofrestriadau ers y llynedd, a'r gyfran wedi cwympo 17% dros bedair blynedd.

Yn 么l y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru, mae hynny'n bennaf achos bod y boblogaeth 17 ac 18 oed wedi crebachu.

Ond rhesymau posib eraill yw gostyngiad yn nifer pynciau mae myfyrwyr yn cymryd, a mwy yn dewis llwybrau gwahanol fel prentisiaeth, hyfforddiant neu gymwysterau eraill.

Mae yna ostyngiad fwy fyth wedi bod yn nifer y cofrestriadau Uwch Gyfrannol (UG) sydd fel arfer yn cael eu sefyll ar ddiwedd blwyddyn 12 ac yn cyfri 40% tuag at y Safon Uwch.

Ers 2015, mae'r rheini wedi gostwng 27%.

Mathemateg yn rhif 1

Eleni cafodd pum Safon Uwch newydd eu harholi am y tro cyntaf sef Dylunio a Thechnoleg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith, Mathemateg Bellach ac Astudiaethau'r Cyfryngau.

Dyma ddiwedd proses sydd wedi gweld 29 Safon Uwch newydd yn cael eu cyflwyno dros bedair blynedd.

Er bod y cymwysterau yn parhau i gyfateb 芒 Safon Uwch yn Lloegr, mae'r cynnwys wedi cael ei addasu.

Mathemateg yw'r pwnc mwyaf poblogaidd o hyd, o flaen Bioleg, Hanes a Chemeg.

Fe fydd canlyniadau UG a Bagloriaeth Cymru yn cael eu rhyddhau hefyd.