麻豆官网首页入口

Albert Owen i sefyll lawr fel Aelod Seneddol Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Albert Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Albert Owen wedi bod yn AS ers 2001

Mae'r Aelod Seneddol Llafur dros Ynys M么n, Albert Owen wedi dweud y bydd yn camu i lawr o'r swydd adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Dywedodd nad oedd yn benderfyniad hawdd ond ei fod am dreulio mwy o amser gyda'i deulu.

Roedd wedi datgan ar 么l Etholiad Cyffredinol 2017 y byddai'n aros fel AS tan 2022.

Ond mewn datganiad nos Fercher, dywedodd na fyddai'n gallu ymrwymo i bum mlynedd ychwanegol yn y swydd pe byddai Etholiad Cyffredinol buan yn cael ei alw eleni neu yn 2020.

'Rhesymau personol'

"Mae hi wedi bod yn anrhydedd enfawr i gael fy ethol fel AS Llafur Ynys M么n mewn pum etholiad seneddol, ac yn fraint cael gwasanaethu fy etholaeth," meddai.

"Mae fy mhenderfyniad i beidio sefyll eto oherwydd rhesymau personol - yn syml, dwi am wneud pethau eraill a threulio mwy o amser gyda fy nheulu."

Cafodd Mr Owen ei ethol fel AS Ynys M么n am y tro cyntaf 'n么l yn 2001.