'Sail i gydweithio' i atal Brexit heb gytundeb

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Adam Price fod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol

Mae trafodaethau amlbleidiol gyda'r nod o atal Brexit heb gytundeb wedi creu "sail gadarn am gydweithio" yn 么l arweinydd Plaid Cymru.

Daeth sylwadau Adam Price yn dilyn cyfarfod rhwng arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a chynrychiolwyr o'r SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, yr Independent Group for Change a Phlaid Cymru.

Penderfyniad y cyfarfod oedd mynd i lawr llwybr deddfu er mwyn ceisio sicrhau na fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref.

Dywedodd Mr Price: "Rwy'n credu heddiw i ni greu sail gadarn am gydweithredu ar draws y pleidiau ymhlith y rheini ohonom sydd am osgoi'r dinistr o Brexit heb gytundeb, ac ry'n ni wedi gwneud rhai penderfyniadau."

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Corbyn wnaeth wahodd arweinwyr y gwrthbleidiau i'w gwrdd yn Llundain ddydd Mawrth

Dywedodd datganiad ar y cyd gan Lafur, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, yr Independent Group for Change a Phlaid Cymru: "Fe wnaeth arweinwyr y gwrthbleidiau gynnal cyfarfod manwl a chynhyrchiol ar stopio gadael yr UE heb gytundeb.

"Fe wnaeth Jeremy Corbyn amlinellu'r cyngor cyfreithiol a gafodd, sy'n disgrifio cynllun Boris Johnson i ohirio'r senedd er mwyn gorfodi dim cytundeb fel 'y gamdriniaeth fwyaf o rym a'r ymosodiad mwyaf ar egwyddor gyfansoddiadol y DU ers cyn cof'.

"Cytunwyd ar bwysigrwydd cydweithio er mwyn canfod ffyrdd ymarferol o atal dim cytundeb, gan gynnwys y posibilrwydd o ddeddfu a phleidlais o ddiffyg hyder.

"Fe wnaeth yr arweinwyr hefyd gytuno i gynnal trafodaethau pellach."