Llywodraeth y DU yn gofyn am atal y Senedd dros dro

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae Llywodraeth y DU wedi galw ar y Frenhines i atal y Senedd ddyddiau ar ôl i aelodau seneddol ddychwelyd o'u gwyliau.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y byddai Araith y Frenhines yn digwydd wedi hynny, ar 14 Hydref, i esbonio ei agenda "hynod gyffrous".

Byddai'r datblygiad, wythnosau yn unig cyn mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn golygu y byddai'n annhebygol y byddai digon o amser i lunio deddfwriaeth newydd i atal Brexit heb gytundeb.

Mae gwrthbleidiau wedi beirniadu'r penderfyniad, ond dywedodd Downing Street ei fod yn "amser i brif weinidog newydd lunio cynllun ar gyfer y wlad".

Beth mae'n ei olygu?

Bwriad Boris Johnson ydy gohirio'r Senedd rhwng 10 Medi ac 14 Hydref, pan fyddai Araith y Frenhines yn digwydd i amlinellu cynlluniau'r llywodraeth.

Mae hwn yn gam cwbl gyffredin ar ôl i Brif Weinidog newydd gael ei benodi, yn ôl y llywodraeth.

Ond mae'r gwrthbleidiau - a gytunodd i geisio cyflwyno deddfwriaeth i osgoi Brexit heb gytundeb ar ddiwedd mis Hydref - yn cyhuddo Mr Johnson o geisio'n fwriadol i sicrhau na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny.

Fe allan nhw nawr benderfynu cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth pan mae Aelodau Seneddol yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin yr wythnos nesa'. 

Ond drwy atal y Senedd ar 10 Medi, byddai hynny ond yn caniatáu rhai diwrnodau'r wythnos nesaf er mwyn cyflwyno newidiadau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod Mr Johnson yn "gofyn i'r Frenhines gau'r drws ar ein democratiaeth".

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price mae penderfyniad Mr Johnson i atal y Senedd yn "gwbl anghyfrifol" ac yn ymdrech i "dawelu ei wrthwynebwyr".

"Mae hyn yn ymgais anghyfansoddiadol gan Brif Weinidog sydd heb gael ei ethol i gyflwyno polisi heb fandad," meddai.

"O ganlyniad i Brexit rydyn ni'n wynebu trindod o argyfyngau; yn wleidyddol, yn economaidd ac yn gyfansoddiadol. Oes modd i unrhyw un ddadlau mai'r peth cyfrifol i'w wneud nawr yw tynnu'r pŵer 'nôl o ddwylo'r Senedd a thawelu ASau?

"Roedden ni eisoes mewn cyfnod tywyll iawn o ran gwleidyddiaeth y wlad hon, ac mae hi'n edrych yn dywyllach fyth nawr."

Ychwanegodd ei fod yn benderfynol o weld y Cynulliad yn cael ei alw 'nôl mor fuan â phosib er mwyn gyrru neges glir i San Steffan fod Cymru yn gwrthwynebu Brexit heb gytundeb.

'Cynllun cywilyddus'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds fod hyn yn "gynllun cywilyddus i orfodi Brexit heb gytundeb ar bobl Cymru".

"Cefais i fy ethol i fod yn llais i'm hetholwyr yn San Steffan. Drwy atal y Senedd mae Boris Johnson yn ceisio tawelu'r lleisiau hynny."

Ond dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: "Mae nawr yn amser ar gyfer llywodraeth newydd a phrif weinidog newydd i lunio cynllun ar gyfer y wlad ar ôl gadel yr Undeb Ewropeaidd."

Cafodd y safbwynt yna ei gefnogi gan Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

"Gan fod hwn yn llywodraeth newydd gyda phrif weinidog newydd mae'n briodol fod Araith y Frenhines yn cael ei thraddodi fel bod y Llywodraeth yn cael amlinellu ei blaenoriaethau," meddai.

"Dyma'r drefn seneddol arferol, a phe na bai Llywodraeth y DU yn gwneud hyn yna byddai'r gwrthbleidiau yn sicr o gwyno na fyddai hyn yn digwydd."

Ar hyn o bryd, o ran cyfraith gwlad, fe fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref, heb neu gyda chytundeb.