Y Llywydd yn cytuno i alw'r Senedd yn 么l yn gynnar

Disgrifiad o'r llun, Bydd Aelodau Cynulliad yn dychwelyd ar 5 Medi

Mae Llywydd y Cynulliad wedi cytuno i alw'r Senedd yn 么l yn gynt na'r disgwyl yn dilyn cais gan brif weinidog Cymru.

Fe ofynnodd Mark Drakeford i Elin Jones am adalw'r Cynulliad yn sgil cyhoeddiad Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ei fod yn bwriadu atal Senedd y DU ddyddiau ar 么l i ASau ddychwelyd o'u gwyliau.

Roedd beirniadaeth chwyrn ymysg y gwrthbleidiau ond dywedodd Downing Street ei fod yn "amser i brif weinidog newydd lunio cynllun ar gyfer y wlad".

Bydd Aelodau Cynulliad nawr yn dychwelyd i'r Senedd ar 5 Medi.

Dywedodd Ms Jones: "Yn unol 芒 Rheol Sefydlog 12.3, rwyf wedi cael cais gan y Prif Weinidog i adalw'r Cynulliad yr wythnos nesaf er mwyn trafod y datblygiadau diweddaraf o ran Brexit.

"Rwyf wedi cytuno i'r cais ac, yn sgil hyn, bydd Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ddydd Iau 5 Medi.

"Rydym ar dir cyfansoddiadol digynsail ac, am fod Senedd y DU yn ailymgynnull yr wythnos nesaf, mae'n fater o egwyddor seneddol y dylai ACau hefyd gael y cyfle i siarad ar ran eu hetholwyr ar bwnc o'r fath arwyddoc芒d."

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i adalw tair gwaith o'r blaen:

  • Yn 2002 yn dilyn marwolaeth y Fam Frenhines.
  • Yn 2012 i drafod rheoliadau treth gyngor a phleidleisio arnynt.
  • Yn 2016 i drafod argyfwng y diwydiant dur.

Bwriad Mr Johnson ydy gohirio Senedd y DU rhwng 10 Medi ac 14 Hydref, pan fyddai Araith y Frenhines yn digwydd i amlinellu cynlluniau'r llywodraeth - cam cwbl gyffredin, yn 么l y llywodraeth.

Ond mae'r gwrthbleidiau - a gytunodd i geisio cyflwyno deddfwriaeth i osgoi Brexit heb gytundeb ar ddiwedd mis Hydref - yn cyhuddo Mr Johnson o geisio'n fwriadol i sicrhau na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny.

Drwy atal y Senedd ar 10 Medi, byddai hynny ond yn caniat谩u rhai diwrnodau'r wythnos nesaf er mwyn cyflwyno newidiadau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod Mr Johnson wedi "gofyn i'r Frenhines gau'r drws ar ein democratiaeth".

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o bobl wedi ymgynnull yng nghanol Caerdydd nos Fercher i leisio eu hanfodlonrwydd

Yn 么l arweinydd Plaid Cymru, Adam Price mae penderfyniad Mr Johnson i atal y Senedd yn "gwbl anghyfrifol" ac yn ymdrech i "dawelu ei wrthwynebwyr".

Ychwanegodd fod hyn "yn ymgais anghyfansoddiadol gan Brif Weinidog sydd heb gael ei ethol i gyflwyno polisi heb fandad."

Nododd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds fod hyn yn "gynllun cywilyddus i orfodi Brexit heb gytundeb ar bobl Cymru".

"Cefais i fy ethol i fod yn llais i'm hetholwyr yn San Steffan. Drwy atal y Senedd mae Boris Johnson yn ceisio tawelu'r lleisiau hynny."

'Dyma'r drefn arferol'

Ond dywedodd Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ei bod hi'n "briodol fod Araith y Frenhines yn cael ei thraddodi fel bod y Llywodraeth yn cael amlinellu ei blaenoriaethau".

"Dyma'r drefn seneddol arferol, a phe na bai Llywodraeth y DU yn gwneud hyn yna byddai'r gwrthbleidiau yn sicr o gwyno na fyddai hyn yn digwydd."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Downing Street: "Mae nawr yn amser ar gyfer llywodraeth newydd a phrif weinidog newydd i lunio cynllun ar gyfer y wlad ar 么l gadel yr Undeb Ewropeaidd."

Ar hyn o bryd, o ran cyfraith gwlad, fe fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref, heb neu gyda chytundeb.