麻豆官网首页入口

'Cummings ac nid Boris Johnson yw'r prif weinidog'

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson wedi mynnu nad yw eisiau galw etholiad

Mae AS Ceidwadol sy'n bwriadu pleidleisio yn erbyn llywodraeth Boris Johnson er mwyn atal Brexit di-gytundeb wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru mai ei strategydd, Dominic Cummings "yw'r prif weinidog ar hyn o bryd".

Awgrymodd AS Aberconwy, Guto Bebb hefyd wrth Post Cyntaf bod pleidlais dros y Ceidwadwyr pe tasae yna etholiad cyffredinol fis nesaf yn gyfystyr 芒 phleidlais dros Blaid Brexit wrth i Mr Johnson fynnu y bydd y DU yn gadael yr UE ar 31 Hydref boed yna gytundeb ai peidio.

Gwrthod sylwadau Mr Bebb wnaeth AS Ceidwadol Mynwy, David Davies ar ddiwrnod ble mae disgwyl i'r mwyafrif o ASau Cymru bleidleisio i gymryd rheolaeth o'r Senedd wrth i'r gwrthbleidiau a rhai aelodau Ceidwadol uno i geisio atal Brexit heb gytundeb.

Mae nifer wedi rhybuddio y byddai Brexit di-gytundeb yn cael effaith andwyol ar Gymru.

Mae'r 麻豆官网首页入口 yn deall y byddai'r Prif Weinidog yn ceisio galw etholiad cyffredinol fis nesaf pe bai'r cynllun i atal gadael heb gytundeb yn llwyddo.

Ddydd Mawrth bydd ASau sydd ddim eisiau gadael heb gytundeb yn pleidleisio i geisio cymryd rheolaeth o weithgareddau yn San Steffan.

Byddai hynny'n eu galluogi i geisio dechrau pasio cyfraith newydd ddydd Mercher gyda'r nod o gael y llywodraeth i ofyn i'r UE oedi Brexit unwaith eto, y tro yma nes 31 Ionawr 2020.

Y disgwyl yw y bydd 34 allan o 40 Aelod Seneddol Cymru yn pleidleisio o blaid y cais.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cadarnhaodd Guto Bebb ym mis Gorffennaf nad oedd am fod yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf

Yn ogystal 芒 Guto Bebb - sydd eisoes wedi cadarnhau nad oedd am gynnig am enwebiad y Blaid Geidwadol yn yr etholiad cyffredinol nesaf - mae'r cefnogwyr yn cynnwys holl ASau Llafur Cymru, pedwar Plaid Cymru ac un Democrat Rhyddfrydol.

Dywedodd Mr Bebb ar Post Cyntaf bod "y Blaid Geidwadol o dan arweinyddiaeth Dominic Cummings, yn honni bod o ddim yn brif weinidog, ond wrth gwrs Dominic Cummings ac nid Boris Johnson yw'r prif weinidog ar hyn o bryd".

Ychwanegodd bod "elfennau canol y ffordd yn y Blaid Geidwadol yn cefnu" gan ddweud "os yda' chi am bleidleisio i'r Blaid Geidwadol yn yr etholiad nesaf waeth i chi bleidleisio dros y Blaid Brexit ddim".

Gwrthod hynny wnaeth yr AS Ceidwadol David Davies, gan ddweud bod Mr Johnson mewn grym, ac nad oedd modd "rhoi bai ar Boris am wneud beth oedd o'n dweud bod o'n mynd i'w wneud".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jo Stevens bod atal Brexit heb gytundeb "er lles y wlad"

Fe wnaeth Boris Johnson fynnu mewn araith ddydd Llun nad oedd eisiau etholiad cyffredinol.

Ond os yw'r gwrthbleidiau'n llwyddo i gymryd rheolaeth o amserlen y Senedd mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno cynnig i gynnal etholiad ar 14 Hydref.

Dywedodd Mr Johnson y byddai dod i gytundeb newydd gyda'r UE yn "amhosib" pe bai'r gwrthbleidiau'n llwyddo ddydd Mawrth.

'Yr unig flaenoriaeth'

Dywedodd AS Canol Caerdydd, Jo Stevens bod atal Brexit heb gytundeb "er lles y wlad".

"Mae'n rhaid i bob ymdrech gan ddemocratiaid pob plaid yn y Senedd yr wythnos yma fod yn canolbwyntio 100% ar atal Brexit di-gytundeb byrbwyll Boris Johnson ar 31 Hydref," meddai.

"Dyna'r unig flaenoriaeth ar hyn o bryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts bod Plaid Cymru yn "barod i frwydro etholiad"

Ychwanegodd Ms Stevens y byddai'n cefnogi etholiad cyffredinol "pan mae hi o fudd i'r wlad i wneud hynny - ar amser o'n dewis ni, nid ei ddewis ef [Mr Johnson]".

Dywedodd AS Llafur Pontypridd, Owen Smith na fyddai etholiad o fudd i'r blaid nac i'r DU.

Ychwanegodd AS Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd, y byddai "galw etholiad cyffredinol er mwyn osgoi trafodaethau pellach ar Brexit" yn "warth".

'Barod am etholiad'

Ddydd Llun fe wnaeth Plaid Cymru alw ar y pleidiau sydd o blaid aros yn yr UE i ymgyrchu er mwyn diddymu Erthygl 50 pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.

Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Ein blaenoriaeth yw defnyddio deddfwriaeth i atal dim cytundeb a chael refferendwm ar yr amodau terfynol.

"Ond fe fyddwn ni'n barod i frwydro etholiad i ddod 芒'r llanast yma i ben, diddymu Erthygl 50 ac atal Brexit."