Ychwanegu pinsied o Gymreictod i'r Bake-Off

Cymraes yn wreiddiol o Bronwydd, Sir G芒r, ond bellach yn byw yn Ninbych y Pysgod, yw un o gystadleuwyr The Great British Bake-Off eleni.

Mae Michelle Evans-Fecci wedi bod yn ffan o'r gyfres bobi boblogaidd ers y dechrau un, ac wedi ymgeisio i fod ar y rhaglen deirgwaith o'r blaen.

O'r diwedd, ar ei phedwerydd ymgais, mae hi wedi bod yn llwyddiannus, ac mae hi'n prysur wneud ei marc ar y rhaglen, gan blesio'r beirniaid, Paul Hollywood a Prue Leith, ac ennill cefnogwyr ledled Prydain gyda'i chacennau a'i bisgedi trawiadol.

Felly beth sydd yn ei hysbrydoli?

"Fel plentyn bach, o' fi'n hoffi coginio gyda Mam yn y gegin, ac o'dd hi'n g'neud lot o bethe' traddodiadol," meddai Michelle. "Fi'n hoffi nawr 'neud pethe' gwahanol a dod 芒 pethe o'r ardd a pethe o ble fi'n byw [ar y rhaglen].

"Nes i ddod 芒 moron ar gyfer y gacen foron, ac wyau o'n i芒r ni. Fi'n trial dod 芒 shwt gymaint o bethe [芒 phosib] o gartre mewn.

"Fi 'di trial ca'l lot o bethe Cymraeg mewn, achos fi 'di'r unig berson sy' o Gymru yn y tent blwyddyn hyn. Fi mo'yn dod 芒 digon o Gymraeg mewn, os dwi'n gallu.

"Y dasg gynta' oedd cacen gyda lot o ffrwythau sych, felly o'n i mo'yn dod 芒 bara brith, wrth gwrs."

A hithau wedi bod wrthi ers blynyddoedd, mae gan Michelle lawer o brofiad mewn pobi llawer o wahanol fathau o fwydydd, ond mae pobi o dan amgylchiadau'r babell yn wahanol iawn i bobi yn eich cegin eich hun, meddai.

"O'n i dan straen weithie. Mae popeth yn mynd yn iawn gartre, achos mae popeth eich hunan gyda chi. Ond pryd chi mewn yn y babell, mae fe mor stressful ac emosiynol achos ti mo'yn 'neud yn dda.

"'O'n i'n stryglan weithie, ond fi'n falch bod e ddim yn dangos ar y teledu! Er dim ond unwaith fi 'di gwylio pob rhaglen, achos fi'n wherthin yn gweld fy hunan ar y teledu, achos ma' fe mor surreal!

Ffynhonnell y llun, Michelle Evans-Fecci

Disgrifiad o'r llun, Mae Michelle yn rhannu rhai o'i danteithion ar ei chyfrif instagram @bakesbymichelle

"O'n i wastod yn panicio pan o'n i'n mynd mewn - mae'r technicals mor galed. Fi wastad yn trial edrych trwy recipe books a ni'n trial dyfalu [beth yw'r dasg], ond 'so ni'n gwybod.

"Pan oedden ni'n cyrraedd yn y bore am saith, roedden nhw'n cymryd ff么n ni bant, a llyfre a laptops a phethe fel'ny. A doedd dim hawl i ni sgwrsio am beth oedden ni'n meddwl oedd am ddod lan."

Er hyn, mae Michelle eisoes wedi ennill y teitl 'Star Baker' ac wedi cael sylwadau anhygoel gan y beirniaid yn y ddwy bennod gyntaf - cafodd ei bisgedi eu galw yn 'eithriadol', a'i chacen foron yn 'ddi-fai'.

"O'dd Prue eisie fy recipe fi i fynd 芒 fe adre iddi gael ei bracteisio ei hunan!"

Ffynhonnell y llun, Michelle Evans-Fecci

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Michelle rys谩it am gacen foron sydd cystal, os nad gwell, nag un ambell i bobydd proffesiynol!

Er fod pawb yn y babell eisiau ennill y gystadleuaeth, does yna ddim cythraul coginio yn agos at y lle, gyda phawb yn gefnogol iawn o'i gilydd. Roedd hyn yn amlwg pan helpodd Michelle Jamie yn yr wythnos fisgedi i geisio gorffen ei dasg:

"O'n i'n teimlo mor drist drosto fe, achos o'n i wedi bennu ac yn rhoi bisgedi fi mas. Ac o'dd e'n stryglan - o'dd rhaid i fi helpu.

"Cystadleuaeth yw e, ond o'n i byth yn teimlo fel 'ny, achos maen nhw mwy fel ffrindie i fi."

Mae Michelle yn teimlo'n ffodus o'r holl gefnogaeth mae hi wedi ei gael hyd yma, nid yn unig gan ei theulu a ffrindiau, ond hyd yn oed rhai o'i harwyr!

Ffynhonnell y llun, Twitter

"Mae'r gefnogaeth wedi bod mor dda - fi'n cael lot o negeseuon bob dydd. Mae pob un mor garedig a mor neis.

"Ond ges i sioc pryd oedd Nigella [Lawson, y cogydd] wedi hala neges i fi. Roedd hi wedi ffeindio fi ar instagram ac wedi gweud bod hi tu 么l i fi!

"O'n i mor hapus!"

Hefyd o ddiddordeb: