麻豆官网首页入口

Gwahardd ffonau wedi 'gwella canlyniadau' disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Luke, Courtney a Theo bod disgyblion wedi croesawu'r gwaharddiad

Mae ysgol yn Llandudno yn dweud bod gwahardd ffonau symudol wedi gwella perfformiad a chanlyniadau arholiadau'r disgyblion.

Mae Ysgol John Bright wedi gwahardd ffonau symudol ers blwyddyn bellach, a dyw disgyblion ddim yn cael eu defnyddio amser egwyl na chinio chwaith.

Dywedodd y pennaeth, Ann Webb fod disgyblion yn llawer mwy cymdeithasol oherwydd y rheol, a'u bod yn canolbwyntio'n well mewn gwersi.

Os oes unrhyw ddisgybl yn cael ei ddal yn defnyddio ff么n symudol ar y safle yn ystod oriau ysgol mae'n cael ei gymryd oddi arnynt nes diwedd y dydd.

Ffynhonnell y llun, Ceidiog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ann Webb bod disgyblion yn parchu'r rheol

Dywedodd Mrs Webb bod cyflwyno'r gwaharddiad wedi chwarae rhan wrth wella canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr ysgol yn yr haf.

"Mae gennym ni d卯m o staff tu allan i'r fynedfa i'r ysgol yn y bore, ac mae'n rhaid i blant droi ei ff么n i ffwrdd a'i roi yn eu bagiau," meddai.

"Mae gweddill ein staff allan yn y coridorau yn y bore'n siarad 芒 disgyblion, siarad gyda'i gilydd a gwneud yn si诺r bod y rheol yn cael ei weithredu.

"I fod yn deg, ers i ni sefydlu'r rheol dydy o ddim yn broblem yn ystod y dydd - dydych chi ddim yn gweld disgyblion gyda ff么n symudol."

Yr unig eithriad i'r rheol yw bod disgyblion chweched dosbarth yn cael defnyddio eu ffonau yn eu hardaloedd cymdeithasol nhw.

Ffynhonnell y llun, Ceidiog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysgol John Bright wedi gwahardd ffonau symudol ers blwyddyn bellach

Dywedodd Mrs Webb bod y gwaharddiad wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" yn yr ysgol.

"Mae'n bendant wedi gwella'r awyrgylch yn yr ysgol am fod y disgyblion yn fwy cymdeithasol," meddai.

"Gan nad ydyn nhw wedi glynu at eu ffonau pan maen nhw'n cyrraedd yr ysgol, mae'n rhaid iddyn nhw gyfathrebu'n gymdeithasol, a phan maen nhw'n mynd i'r llyfrgell maen nhw'n edrych ar lyfrau neu'n trafod gyda'u cyfoedion yn hytrach na bod ar eu ffonau.

"Mae wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwersi hefyd am nad yw'r ffonau'n tynnu eu sylw."

"Rydw i wir yn meddwl bod disgyblion wedi croesawu'r seibiant o gyfryngau cymdeithasol ac, oherwydd bod y sefyllfa'n gwbl glir, mae pawb yn cydymffurfio."