麻豆官网首页入口

S4C: Arweinydd cyngor sir wedi'i benodi'n gadeirydd dros dro

  • Cyhoeddwyd
Huw JonesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd prif weithredwr S4C fod Huw Jones (uchod) wedi dod 芒 "threfn a sicrwydd i'r sianel"

Mae Hugh Hesketh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, wedi cael ei benodi fel cadeirydd dros dro i S4C.

Mae Hugh Evans yn aelod o Fwrdd Unedol S4C ac wedi bod yn aelod anweithredol o'r bwrdd ers Tachwedd 2014.

Mae Mr Evans hefyd yn arweinydd ar Gyngor Sir Ddinbych ers 2007 ac yn gynghorydd sir ar Llanfair Dyffryn Clwyd a Gwyddelwern.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hugh Evans hefyd yn arweinydd Cyngor Sir Ddinbych

Yn y cyfamser mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi dechrau ar y broses o benodi cadeirydd parhaol i'r sianel.

Wrth i S4C ddathlu blwyddyn ers symud i'w pencadlys newydd yn Yr Egin, mae Prif Weithredwr y sianel, Owen Evans wedi rhoi teyrnged i Huw Jones am ei waith fel cadeirydd S4C dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Dywedodd: "Pan ddaeth Huw i'r swydd roedd S4C ar drobwynt allweddol yn ei hanes. Gyda'r egni, brwdfrydedd a'r manylder sy'n nodweddiadol o Huw, fe lwyddodd i ddod 芒 threfn a sicrwydd i'r sianel.

"Mae cymharu ble mae'r sianel heddiw a ble roeddem yn 2011 yn dangos gwaddol Huw.

"Erbyn hyn mae gan y sianel sefyllfa ariannu sefydlog, wedi iddi gael adolygiad cadarnhaol gan y DCMS."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hugh Evans yn aelod o Fwrdd Unedol S4C ac wedi bod yn aelod anweithredol o'r bwrdd ers Tachwedd 2014

Ychwanegodd Owen Evans: "Mae S4C wedi profi llwyddiannau creadigol ar y sgrin deledu hefyd yn ystod cyfnod Huw.

"O Y Gwyll i Un Bore Mercher ac o gyngerdd Syr Karl Jenkins Cantata Memoria: Er mwyn y plant i fuddugoliaethau Geraint Thomas yn y Tour de France a rhediad rhyfeddol t卯m p锚l-droed Cymru yn ystod Ewro 2016, mae'r sgrin wedi bod yn llawn uchafbwyntiau.

"Ac rwy'n si诺r hefyd byddai Huw yn cytuno nad yw'r gwaith drosodd eto - mae sawl her eto i ddod.

"Ond heb waith Huw, yn gosod y sylfaen yma, byddai S4C yn sefydliad gwahanol iawn a llawer tlotach, ym mhob ystyr y gair, heddiw."