Cymuned i geisio prynu hen dafarn y Cross Foxes

Disgrifiad o'r llun, Os yn llwyddo bydd angen i'r fenter gasglu 拢175,000 i dalu am yr adeilad
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Roedd tua hanner cant o bobl mewn cyfarfod yn Nhrawsfynydd nos Wener i weld a oes diddordeb yn lleol yn y posibilrwydd o brynu hen dafarn y Cross Foxes.

Ers i'r dafarn gau yn 2018 does dim un man yn y pentref yn cynnig bwyd na diod.

Yn 么l un cynghorydd lleol mae peidio cael tafarn yn y pentref wedi cael "effaith ddigalon".

Os yn llwyddo bydd angen i'r fenter gasglu 拢175,000 i dalu am yr adeilad.

Disgrifiad o'r llun, 'Mae angen rhywbeth mwy na thafarn,' medd y cynghorydd lleol, Elfed Wyn Jones

Dywedodd y cynghorydd lleol, Elfed Wyn Jones fod y pentref yn 'llawer distawach' ers cau'r dafarn.

"Dwi'n cofio Trawsfynydd gyda thair tafarn ar un cyfnod," meddai, "ond o 'nabod y gymuned ma'i mor glos a chryf.

"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n sicr o lwyddo a dwi'n credu gallwn ni 'neud rhywbeth mwy na jest tafarn - rhywbeth hollol gymunedol."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r dafarn ar werth ar 么l cau fis Ionawr y llynedd

Y dafarn agosaf i Drawsfynydd ar hyn o bryd yw'r un ym mhentref Maentwrog, sydd dros 5 milltir i ffwrdd.

Wrth siarad yn y cyfarfod dywedodd y cadeirydd, Bryn Jones ei fod yn hapus gyda'r nifer 芒 ddaeth yno, ac yn "gobeithio fydd awch i ddatblygu a mynd ymlaen efo'r fenter.

'Dwi'n meddwl fod o'n hanfodol fod 'na ryw fath o ganolfan groeso. 'Does 'na'm lle i bobl fynd am fwyd 'na diod ar hyn o bryd."

Bwriad y fenter r诺an yw ceisio mynd ati i gasglu arian a cheisio cael rhagor o gefnogaeth gan y gymuned ehangach.