麻豆官网首页入口

Brechiad ffliw: Annog pobl 芒'r risg uchaf

  • Cyhoeddwyd
Curwch ffliwFfynhonnell y llun, GIG

Mae pobl sydd 芒'r risg uchaf o ddal y ffliw yn cael eu hannog i gael brechiad wrth i'r gaeaf agos谩u.

Ymysg y rhai sy'n cael eu targedu gan ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru mae pobl sydd 芒 salwch hir dymor, menywod beichiog a phobl dros 65 oed.

Un sy'n cael ei frechu eto eleni ydy'r athletwr Josh Llewelyn-Jones o Gaerdydd, wrth iddo baratoi am ei her nesaf o nofio 21 milltir yn Dover, seiclo 200 milltir ac yna rhedeg 160 milltir yn 么l gartref.

Cafodd Mr Llewelyn-Jones wybod ei fod yn annhebygol o gyrraedd 30 oed pan gafodd ddiagnosis o ffibrosis systig.

Bellach yn 32 oed, bydd yn cael ei frechu er mwyn gallu canolbwyntio ar ei hyfforddiant ar gyfer yr her dros yr wythnosau nesaf.

"Mae gen i ffibrosis systig felly gallai'r ffliw fod yn ddifrifol iawn i fi, gallai arwain at gymhlethdodau fel niwmonia," meddai.

"Mae'n bryderus iawn bod rhywbeth sydd o gwmpas bob blwyddyn ac yn aml yn cael ei drin fel annwyd drwg yn gallu fy ngwneud yn wael iawn."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnig brechiadau am ddim i blant rhwng 2-10 oed, gofalwyr di-d芒l a phreswylwyr cartrefi gofal.

Am fwy o wybodaeth, ewch i .