麻豆官网首页入口

Perygl o golli un ym mhob chwe rhywogaeth yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bras yr 欧d a TurturFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bras yr 欧d a'r turtur yn ddau rywogaeth sydd wedi diflannu o Gymru

Mae un ym mhob chwe rhywogaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion mewn perygl o ddiflannu o Gymru, yn 么l adroddiad newydd.

Effaith amaethu a newid hinsawdd ar gynefinoedd addas sy'n cael y bai.

Mae'r elusennau bywyd gwyllt fu ynghlwm 芒'r astudiaeth yn disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng natur", gan alw am gynnydd sylweddol mewn gwaith cadwraeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y prif weinidog yn trin y mater fel "blaenoriaeth".

666 rhywogaeth dan fygythiad

Bu dros 80 o gyrff amgylcheddol a sefydliadau ymchwil ar draws y DU yn cydweithio ar yr adroddiad Cyflwr Byd Natur 2019.

Yn wahanol i'r ymdrechion blaenorol yn 2013 a 2016, roedd asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o'r gwaith hefyd er mwyn cyflwyno "y darlun cliriaf eto o statws ein rhywogaethau ar draws tir a m么r".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r brith brown a'r gl枚yn llwyd wedi gweld cwymp o dros 75% yn eu nifer

O'r 6.500 o rywogaethau sydd i'w canfod yng Nghymru, roedd 523 (8%) ohonyn nhw mewn perygl o ddiflannu o Brydain.

Yn ogystal, roedd digon o ddata ar gyfer 3,902 o rywogaethau i asesu eu risg o ddiflannu o Gymru yn benodol.

Awgrymodd yr astudiaeth fod 666 (17%) dan fygythiad o farw allan yng Nghymru, gyda 73 o rywogaethau wedi'u colli'n barod.

Beth allai ddiflannu o Gymru?

Ers i fonitro trylwyr ddechrau yn yr 1970au mae'r rhywogaethau sydd wedi diflannu o Gymru yn cynnwys adar eiconig fel y turtur (turtle dove) a bras yr 欧d (corn bunting).

Mae mamaliaid ar y tir yn ei chael hi'n anodd hefyd, gyda dros 30% dan fygythiad - gan gynnwys y wiwer goch a llygoden y d诺r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 88% o dirwedd Cymru'n cael ei ffermio

Dangosodd cofnod o 33 math o l枚yn byw a gwyfod bod eu niferoedd wedi disgyn 52% ers 1976.

Roedd rhai sy'n dibynnu ar gynefinoedd mwy arbenigol, fel y brith brown (high brown fritillary) a'r gl枚yn llwyd (grayling), wedi gweld cwymp o dros 75%.

Roedd bywyd gwyllt i'w weld a'i gofnodi mewn llai o safleoedd yn gyffredinol - gyda 10% o gwymp mewn dosbarthiad rhywogaethau.

Pam fod hyn yn digwydd?

Mae'r dystiolaeth o Gymru a gweddill y DU yn cydfynd 芒'r darlun byd-eang a amlinellwyd gan wyddonwyr o'r Cenhedloedd Unedig mewn adroddiad arwyddocaol ym mis Mai, yn 么l yr ymchwilwyr.

Maen nhw'n dod i'r casgliad mai'r ffordd y mae tir amaethyddol yn cael ei reoli sy'n bennaf gyfrifol am y dirywiad ym myd natur.

Mae 88% o dirwedd Cymru'n cael ei ffermio, sy'n golygu bod y bywyd gwyllt a phlanhigion sy'n rhannu'r gofod yna yn arbennig o fregus pan fod arferion amaethu yn newid.

Ers yr 1930au, er enghraifft, mae dros 90% o laswelltir rhannol-naturiol y wlad wedi'i golli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae aderyn y bwn a'r glesyn mawr wedi'u hachub yng Nghymru drwy waith cadwraeth

Mae cynlluniau i dalu ffermwyr i wella'r amgylchedd wedi bod yn "rhannol lwyddiannus" wrth gyrraedd y nod o hybu bioamrywiaeth, medd yr adroddiad.

Tra bod oddeutu 11% o dirwedd Cymru wedi'i glustnodi fel safleoedd i warchod natur, dyw'r rhan fwyaf ddim mewn cyflwr da na wedi'u rheoli'n effeithiol ar gyfer y bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw.

Mae newid hinsawdd yn cael effaith fawr hefyd, gan newid patrwm mudo adar a chynyddu niferoedd pl芒u a chlefydau.

Mae llygredd yn "broblem sylweddol" arall, gan effeithio cynefinoedd mewn nentydd ac afonydd yn arbennig.

Oes llygedyn o obaith?

Mae rhywogaethau fel aderyn y bwn (bittern) a'r glesyn mawr (large blue butterfly) wedi'u hachub yng Nghymru drwy waith cadwraeth, gyda'r barcud coch yn enghraifft enwog o aderyn sydd wedi cael ei ailgyflwyno'n llwyddiannus.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at nifer o gynlluniau addawol, gan gynnwys Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r barcud coch yn enghraifft enwog o aderyn sydd wedi cael ei ailgyflwyno'n llwyddiannus yng Nghymru

Yn 么l yr ymchwilwyr mae gobaith hefyd o ran y pryder cynyddol ymysg y cyhoedd yngl欧n 芒'r amgylchedd a newid hinsawdd.

Mae faint o arian sy'n cael ei wario gan elusennau amgylcheddol yn y DU wedi cynyddu 24% ers 2010/11 a'r oriau y mae pobl yn treulio wrth wirfoddoli i wneud gwaith cadwraeth wedi cynyddu 46% ers 2000.

Pa ymateb sydd wedi bod?

Dywedodd Katie-Jo Luxton, pennaeth RSPB Cymru fod yr adroddiad "yn profi nad yw Cymru'n eithriad i'r duedd fyd-eang".

"Dyw'r dirywiad ym myd natur ddim yn arafu," meddai.

"Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wyrdroi'r argyfwng yma i'w groesawu, ond mae'n rhaid i ni gynyddu graddfa a chyflymdra'r gwaith hwnnw yn ddramatig os ydyn ni am gael unrhyw obaith o allu cyflwyno amgylchedd naturiol iach i genedlaethau'r dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr CNC, ei bod yn "gwerthfawrogi bod angen gweithredu ar frys"

Ychwanegodd Anne Meikle, cyfarwyddwr WWF Cymru y dylai'r adroddiad fod yn "rhybudd, nid yn broffwydoliaeth".

"Fe all natur oroesi os ydyn ni'n rhoi'r cyfle iddo," meddai.

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bod y corff yn falch o allu cydweithio 芒 phartneriaid i "ddarparu'r dystiolaeth orau sydd ar gael fel bod modd i ni gyd ddeall sut mae natur yn newid ar draws y DU".

"Ry'n ni'n gwerthfawrogi bod angen gweithredu ar frys ar draws cymdeithas i atal y dirywiad parhaus o ran bioamrywiaeth," meddai.

'Blaenoriaeth'

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod fod taclo'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn her mor fawr 芒 newid hinsawdd ac mae'r prif weinidog wedi ymrwymo i drin hyn fel blaenoriaeth.

"Rydyn ni eisoes yn gweithredu ac yn integreiddio bioamrywiaeth i benderfyniadau sy'n cael ei wneud ar draws y llywodraeth.

"Mae Cymru'n cael ei gydnabod am fod ar flaen y gad gyda'i ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol ac mae'n rhaid i ni weithredu nawr i adeiladu ar hyn a mynd i'r afael 芒'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

"Rydyn ni'n cydweithio 芒 CNC, partneriaid a rhanddeiliaid i benderfynu ar flaenoriaethau y gallwn ni eu gweithredu er mwyn helpu adferiad natur."