AS Wrecsam, Ian Lucas ddim am sefyll mewn etholiad arall

Disgrifiad o'r llun, Mae Mr Lucas wedi bod yn AS dros Wrecsam ers 2001.

Mae AS Llafur Wrecsam, Ian Lucas wedi cadarnhau na fydd yn sefyll eto mewn etholiad cyffredinol.

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Lucas na fydd yn sefyll eto am "resymau personol a rhai teuluol."

Mae Mr Lucas wedi bod yn AS dros Wrecsam ers 2001.

Dywedodd mewn llythyr fod cynrychioli'r etholaeth wedi bod yn "anrhydedd" a bod ei "ddyled yn fawr i bobl Wrecsam sydd wedi ei ethol bum gwaith."

Ychwanegodd yn y llythyr fod y swydd yn "gyfrifoldeb drom" a byddai'n "parhau i gynrychioli pobl Wrecsam nes i'r etholiad cyffredinol nesaf ddigwydd."