Drakeford a Sturgeon yn croesawu etholiad cyffredinol

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口

Disgrifiad o'r llun, Nicola Sturgeon a Mark Drakeford mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher
  • Awdur, Gareth Pennant
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae prif weinidogion Cymru a'r Alban wedi dweud y byddan nhw'n croesawu etholiad cyffredinol.

Mewn cynhadledd newyddion yn Llundain, fe bwysleisiodd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon eu bod nhw'n gwrthwynebu cytundeb Brexit y llywodraeth.

Ond fe wnaethon nhw egluro bod angen manylion am estyniad posib i'r broses cyn gwthio am etholiad cyn y Nadolig.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd ei fod o blaid refferendwm, ond y byddai hefyd yn fodlon ar etholiad fel modd o ddatrys y sefyllfa.

Mae'r ddau wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio rhuthro'r cytundeb ymadael trwy'r Senedd heb "graffu manwl" arno.

Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Boris Johnson a llywydd Cyngor Ewrop yn gofyn am estyniad er mwyn cael cyfle i astudio manylion y Mesur Ymadael.

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf o hyd wedi bod yn agnostic yngl欧n 芒'r cwestiwn a'i etholiad cyffredinol neu refferendwm yw'r ffordd orau i roi'r dewis yn 么l yn nwylo'r bobl.

"Ond rwyf o hyd wedi bod yn gwbl glir mai dyna be ddylai fod y nod yn y pen draw.

"Beth rwyf i am ei weld yw'r penderfyniad yn 么l yn nwylo'r bobl wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf."

Ychwanegodd: "Pe bai refferendwm yn dod gyntaf yna mae'n rhaid manteisio arno ar bob cyfrif.

"Pe bai etholiad cyffredinol yn dod gyntaf, yna rwyf yn bendant eisiau hynny."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mark Drakeford: !Aannerbyniol i ddisgwyl aelodau i graffu Bil mor bwysig mewn cyn lleied o amser."

Nos Fawrth fe gafodd y Mesur Ymadael ei basio gyda mwyafrif o 30 ond yn ddiweddarach cafodd amserlen Boris Johnson - fyddai'n cyfyngu'r cyfnod o drafod i dridiau - ei gwrthod.

Hwn oedd y tro cyntaf i D欧'r Cyffredin bleidleisio o blaid unrhyw gytundeb Brexit o ran egwyddor.

Daeth y bleidlais yn Nh欧'r Cyffredin ar 么l i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio yn gynharach ddydd Mawrth yn erbyn cytundeb Boris Johnson gyda Mr Drakeford yn galw ar ASau i wrthod cymeradwyo'r Mesur.

Fe wnaeth Mr Drakeford drydar ar 么l y bleidlais yn Nh欧'r Cyffredin: "Rwyf yn falch bod T欧'r Cyffredin wedi cytuno 芒 ni ei bod hi'n annerbyniol i ddisgwyl aelodau i graffu Bil mor bwysig mewn cyn lleied o amser."