Dim enillwyr mewn etholiad, medd un AS Llafur

Disgrifiad o'r llun, Byddai neb yn ennill etholiad tan i Brexit gael ei sortio, meddai Ms Antoniazzi ar ragle Wales Live

Mae un aelod seneddol o Gymru yn credu na all Jeremy Corbyn ennill etholiad tra bod Brexit yn achosi "anhrefn" gwleidyddol.

Ar raglen Wales Live 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd Tonia Antoniazzi bod rhaid "sortio Brexit" gyntaf, ac na fyddai'r un blaid yn sicrhau mwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin ar hyn o bryd.

Roedd AC y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, yn credu y byddai etholiad yn rhoi diwedd ar senedd sydd wedi'i chloi.

Bydd ASau'n pleidleisio ar gynllun y prif weinidog Boris Johnson i gynnal etholiad ar 12 Rhagfyr yn ddiweddarach ddydd Llun.

Dywedodd AS G诺yr, Ms Antoniazzi: "Ddylen ni ddim cynnal etholiad cyffredinol ar y funud oherwydd cyflwr ein gwleidyddiaeth ni. Rhaid i ni sortio Brexit gyntaf.

"Rwy'n gobeithio y bydden ni'n ennill etholiad cyffredinol, ond dwi'n credu bod rhaid i ni fod yn realistig. Ry'n ni mewn anhrefn. Fydden ni ddim yn cael mwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin."

Refferendwm

Ychwanegodd fod angen craffu'n fanwl ar gytundeb Brexit Mr Johnson cyn ei roi mewn refferendwm: "Ry'n ni am rhoi hwn yn 么l i'r bobl fel eu bod nhw'n gallu penderfynu os ydyn nhw eisiau'r math yna o Brexit."

Roedd Andrew RT Davies, cyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, yn cefnogi cytundeb Brexit y prif weinidog, a'r cynnig i gynnal etholiad ar 12 Rhagfyr.

Dywedodd: "Etholiad Cyffredinol yw'r weithred ddemocrataidd fwyaf lle gallwn ni ddatgloi'r senedd yma, dod 芒 senedd newydd i mewn a gweithredu dymuniad pobl Prydain.

"Os nad oes gyda chi lywodraeth mewn lle all weithredu'r cytundeb ymadael, yna rydych chi'n parhau yn sownd, a dyw hynny'n gwneud dim lles i'r wlad o gwbl."

Roedd Caroline Jones o Blaid Brexit hefyd yn cefnogi cynllun y prif weinidog. "Rwyf am weld etholiad cyffredinol, oherwydd wedyn fe fyddai gyda ni lywodraeth fwyafrifol allai ddelifro ar yr addewid i'r bobl," meddai.

I Blaid Cymru, roedd Dr Dai Lloyd yn gwrthod etholiad cyffredinol. "Beth sydd angen yw refferendwm. Dewch i ni roi cytundeb Boris yn erbyn 'aros' a wedyn fe gaiff pobl ddewis."

Mae'r SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno cynnig fyddai'n golygu etholiad cyffredinol ar 9 Rhagfyr os fydd estyniad i Brexit tan 31 Ionawr.

Dywedodd Layla Moran o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae ein cynnig ni yn sicrhau na fyddwn yn gadael heb gytundeb, ac yn caniat谩u etholiad cyffredinol cyn y cytundeb, cyn bod unrhyw beth y mae Boris Johnson wedi'i gytuno yn cael ei basio, a bydd y bobl yn cael penderfynu os ydych chi am gael y cytundeb yna neu beidio, neu a fyddech chi'n hoffio stopio Brexit."