Undeb Ewropeaidd yn cytuno i ohirio Brexit tan 31 Ionawr

Ffynhonnell y llun, AFP/Getty Images

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i ohirio dyddiad ymadael y Deyrnas Unedig tan 31 Ionawr 2020, yn 么l neges ar gyfrif Twitter Llywydd Cyngor Ewrop.

Ysgrifennodd Donald Tusk y byddai gwledydd yr UE yn caniat谩u dyddiad ymadael hyblyg sy'n golygu y gallai'r DU adael yr undeb cyn y dyddiad hwnnw petai'n llwyddo i gael s锚l bendith Aelodau Seneddol i gytundeb Brexit.

Daw'r cyhoeddiad wrth i ASau baratoi i bleidleisio ar gynnig gan Boris Johnson i gynnal etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Roedd y DU i fod i adael yr UE ar 31 Hydref, ond doedd dim dewis yn gyfreithiol gan Mr Johnson ond gofyn am estyniad wedi i'r Senedd fethu 芒 dod i gytundeb.

Mae'r SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cynnig cynnal etholiad cyffredinol ar 9 Rhagfyr.

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi gweld fersiwn drafft o'r cytundeb ar gyfer llysgenhadon 27 gwlad yr UE sydd hefyd yn cynnwys ymroddiad na ellir ail-drafod telerau'r Cytundeb Ymadael yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi croesawu penderfyniad yr UE mewn neges ar ei gyfrif Twitter

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar ei gyfrif Twitter ei fod yn "croesawu'r penderfyniad yma", gan ddweud bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi "gwastraffu amser a ffwdan dros y tair blynedd diwethaf".

Yn 么l arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts mae angen i'r gwrthbleidiau ddefnyddio'r amser ychwanegol i sicrhau Pleidlais y Bobl - neu "ffurfio llywodraeth dros dro" os oes rhaid.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i'r rheiny ohonom sy'n gwrthwynebu achosi niwed Brexit ym mhedwar gwlad y DU uno unwaith yn rhagor i sicrhau'r ffordd fwyaf synhwyrol o ddod 芒'r llanast yma i ben - refferendwm gair olaf."