麻豆官网首页入口

'Pobl yn pryderu' am newidiadau Ysbyty'r Faenor Cwmbr芒n

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Prifysgol y FaenorFfynhonnell y llun, Laing O'Rourke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Ysbyty Prifysgol y Faenor agor ei drysau yn 2021

Mae angen gwell esboniad o newidiadau i wasanaethau iechyd ardal Cwmbr芒n a ddaw yn sgil agor ysbyty newydd, yn 么l Aelod Cynulliad.

Yn 么l Nick Ramsay, AC Mynwy, dyw pobl ddim wir yn deall pa effaith y bydd agor Ysbyty Prifysgol y Faenor yn ei gael ar ysbytai eraill yr ardal.

Mae angen i bobl gael gwybod "pa wasanaethau fydd ar 么l" yn ysbytai presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, meddai.

Yn 么l y bwrdd iechyd bydd y mwyafrif o bobl yn dal i dderbyn eu gofal yn yr un ffordd ag ar hyn o bryd.

'Pobl yn ansicr'

Bydd 470 o wl芒u yn yr ysbyty newydd yn Llanfrechfa, sy'n costio 拢350m - y buddsoddiad unigol mwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddod i ben yn ystod tymor yr hydref 2020, a bydd yn agor yn y gwanwyn y flwyddyn wedyn.

Dim ond cleifion sydd 芒 phroblemau cymhleth, cyflwr difrifol neu angen gofal dwys fydd yn cael eu trin yno.

Golyga hynny y bydd y mwyafrif o wasanaethau argyfwng ac arbenigol y bwrdd iechyd yn symud i'r ysbyty newydd.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd iechyd Aneurin Bevan

Bydd yr adrannau argyfwng yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn dod yn unedau m芒n anafiadau.

Yn ogystal bydd gofal arbenigol ar gyfer plant a babanod yn cael eu symud i'r ysbyty newydd.

Mae Mr Ramsay yn dweud bod rhai o'i etholwyr wedi cysylltu gydag o yn pryderu am y newidiadau.

"Ar hyn o bryd mae pobl yn gwybod beth yw'r sefyllfa. Maen nhw yn gwybod os yw eu hanwyliaid yn cael trawiad ar y galon er enghraifft i fynd i Ysbyty Nevill Hall," meddai.

"Bydd hynny yn newid pan fyddan nhw'n agor y ganolfan gofal dwys yng Nghwmbr芒n.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru esbonio i bobl yn llawer mwy clir pa wasanaethau fydd ar 么l yn Nevill Hall.

"Mae'r ysbyty wedi bod yn darparu gwasanaethau i'r gymuned leol am amser hir iawn ac mae pobl yn pryderu. Maen nhw'n ansicr yngl欧n 芒 beth fydd ar 么l yno yn y dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Nick Ramsay mae pobl yn pryderu yngl欧n 芒 pha wasanaethau fydd yn parhau yn yr ysbytai presennol

Yn 么l y bwrdd iechyd bydd 75% o bobl yn dal i dderbyn eu gofal yn yr un ffordd unwaith y bydd yr ysbyty newydd yn agor.

Dywedodd Dr Steve Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd yn y bwrdd iechyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal.

"Mae'n bwysig i bobl ddeall y byddan nhw yn dal yn medru mynd i'r uned m芒n anafiadau a chael asesiadau meddygol a bydd y mwyafrif o'r gofal sy'n cael ei ddarparu gan y bwrdd iechyd yn digwydd o fewn yr ysbytai hynny," meddai.

"Wrth i amser agor yr ysbyty agos谩u, bydd cyfathrebu gyda'r boblogaeth er mwyn iddyn nhw ddeall lle maen nhw'n mynd i gael y gwasanaethau yn hanfodol."