麻豆官网首页入口

'Llafur yn barod am etholiad cyffredinol' yn 么l AS

  • Cyhoeddwyd
San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n edrych yn debygol bod etholiad ar y gweill ym mis Rhagfyr

Mae Aelodau Seneddol Llafur yn barod am ymgyrch etholiad cyffredinol, yn 么l AS Caerffili, Wayne David.

Mae'n edrych yn debygol bod etholiad ar y gweill ym mis Rhagfyr wedi i Jeremy Corbyn ddweud bod Llafur yn barod am "yr ymgyrch fwyaf radical erioed".

Bydd Boris Johnson yn gofyn eto i ASau gefnogi ei gynllun am etholiad ar 12 Rhagfyr ddydd Mawrth, wedi iddo fethu mewn ymgais debyg ddydd Llun.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mai dim ond y Blaid Lafur fydd yn rhoi'r dewis i bleidleiswyr ar ddyfodol Brexit.

Plaid Cymru'n gwrthwynebu

Mae disgwyl i Blaid Cymru bleidleisio yn erbyn cynnal etholiad, gan ddweud na fydd hynny'n datrys Brexit.

Daw hynny er i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP gynnig etholiad ar 9 Rhagfyr - ddyddiad maen nhw'n dweud fyddai'n atal Mr Johnson rhag cael ei gytundeb Brexit trwy'r Senedd.

Ddydd Llun fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ganiat谩u estyniad i Brexit, a hynny nes diwedd Ionawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jeremy Corbyn wedi addo "yr ymgyrch mwyaf radical erioed" gan y Blaid Lafur

"Y teimlad ymysg aelodau ac ASau Llafur ydy ein bod yn barod am etholiad - rydyn ni eisiau dechrau arni," meddai Mr David.

"Mae'n mynd i fod yn frwydr anodd ond fe fyddwn ni'n ennill yr etholiad hanesyddol yma."

Ychwanegodd fod y blaid wedi penderfynu cefnogi'r etholiad am ei bod yn "amlwg bod Brexit heb gytundeb ddim yn opsiwn", sef yr ymrwymiad roedd Mr Corbyn eisiau gan Mr Johnson.

'Etholiad yn anochel'

Dywedodd AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies ei fod yn "siomedig" bod etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr UE.

Ond ychwanegodd Mr Davies, fydd ddim yn ymgeisio y tro hwn, bod "penderfyniad y gwrthbleidiau, gyda help y Llefarydd, i rwystro'r penderfyniad a wnaed yn y refferendwm yn 2016 wedi gwneud hyn yn anochel".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Wayne David bod ASau Llafur "eisiau dechrau arni"

Dywedodd Mr Drakeford: "Pan ddaeth Boris Johnson yn brif weinidog roedd yn addo cyflawni Brexit. Mae wedi dweud celwydd ac wedi methu.

"Dim ond pleidlais dros Lafur fydd yn rhoi'r penderfyniad yma yn 么l ble mae i fod, yn nwylo'r bobl - refferendwm ble byddwn yn ymgyrchu dros aros."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y bydd etholiad cyffredinol "ddim yn datrys argyfwng Brexit a gallai hyd yn oed waethygu'r sefyllfa".

"Yr unig ateb i ddod 芒'r llanast i ben yw refferendwm, ddylai fod wedi cael ei wneud yn flaenoriaeth i'r Senedd hon.

"Mae Plaid Cymru yn barod i wynebu etholwyr, gyda neges glir, plaid unedig ac ymrwymiad i wneud ein gwlad yn flaenoriaeth."