麻豆官网首页入口

Ymgeisydd Ceidwadol wedi 'dymchwel achos llys ar bwrpas'

  • Cyhoeddwyd
Ross England
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ross England yw ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad y Cynulliad nesaf

Fe wnaeth ymgeisydd Cynulliad Ceidwadol Cymreig ddymchwel achos llys yn ymwneud 芒 threisio yn fwriadol, yn 么l barnwr.

Ross England yw ymgeisydd y blaid ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021 ac mae wedi gweithio i Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ei swyddfa etholaethol.

Roedd Mr England yn rhoi tystiolaeth mewn achos llys ym mis Ebrill 2018 pan wnaeth honiadau am hanes rhywiol y dioddefwr - honiadau mae'r achwynydd yn gwadu.

Aeth y diffynnydd yn yr achos, James Hackett, a oedd yn ffrind i Mr England, ymlaen i gael ei ganfod yn euog o dreisio mewn achos newydd.

Datgelwyd i'r 麻豆官网首页入口 fod Mr England wedi rhoi tystiolaeth yn yr achos yn honni ei fod wedi cael perthynas rywiol achlysurol gyda'r dioddefwr.

Dywedodd Mr England wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Ni chefais wybod fod unrhyw dystiolaeth yn annerbyniadwy cyn i mi roi tystiolaeth fy hun. Fe roddais ateb gonest...

"Fe wnes i gydymffurfio'n llwyr gydag amodau'r llys cyn ac ar 么l yr achos."

'Ydych chi'n hollol dwp?'

Roedd y barnwr yn yr achos, Stephen John Hopkins QC, wedi egluro'n gynharach nad oedd tystiolaeth o hanes rhywiol y dioddefwr yn dderbyniol.

Aeth ymlaen i ddweud wrth Mr England: "Pam wnaethoch chi ddweud hynny? Ydych chi'n hollol dwp?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ross England yn siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2016

Dywedodd Mr England ei fod yn credu bod y cwestiwn yn ymwneud 芒'i berthynas 芒'r ddynes.

Wrth ateb, dywedodd y Barnwr Hopkins: "Roedd yn hollol amlwg beth oedd y cwestiwn."

Ychwanegodd y barnwr: "Rydych chi wedi llwyddo ar eich pen eich hun, ac nid oes amheuaeth nad oedd yn fwriadol ar eich rhan chi, i ddymchwel yr achos hwn."

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd y ddynes a gafodd ei threisio: "Mae'n hollol sioc i mi y byddai Ross England yn sefyll i fyny yn y llys ac yn dweud y pethau hyn o ystyried eu bod ddim yn wir.

"Gofynnwyd iddo a wnaethon ni weithio gyda'n gilydd, a'r ateb i hynny yw ydy. Dyna'r ateb syml, ie wnaethon ni.

"Ni ofynnodd neb iddo a oeddem mewn perthynas rywiol ai peidio. Roedd yn gynllun roedd ef a phwy bynnag wedi'i lunio i geisio dadreilio'r achos."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Ross England yn gweithio yn swyddfa etholaeth AS Bro Morgannwg ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns

'Dim parch at ferched sy'n cael eu treisio'

Yn yr achos, aeth y Barnwr Hopkins ymlaen i ddweud wrth Mr England: "Byddaf yn ysgrifennu llythyrau personol at bobl sy'n agos atoch yn wleidyddol a gobeithio y byddan nhw'n cymryd camau priodol."

Dywedodd Mr Cairns na dderbyniodd unrhyw ohebiaeth yn ymwneud 芒'r achos hwn.

Wyth mis ar 么l i'r achos treisio ddymchwel ym mis Rhagfyr 2018, cafodd Mr England ei ddewis i sefyll dros y Ceidwadwyr yn sedd Bro Morgannwg ar gyfer etholiadau Cynulliad 2021.

Dywedodd y dioddefwr yn yr achos, wrth siarad yn ddienw, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Mae ei wneud e'n ymgeisydd yn eu sedd darged ar gyfer y Cynulliad yn profi cyn lleied o barch sydd ganddyn nhw tuag ataf, cyn lleied o barch sydd ganddyn nhw at y system gyfiawnder troseddol.

"Mewn ffordd maen nhw'n diolch iddo, maen nhw'n ei wobrwyo.

"Y neges rydw i'n ei chael yw nad oes ganddyn nhw barch tuag ataf, dim parch at ferched sydd wedi cael eu treisio, cyn belled 芒 bod Ross wedi'i amddiffyn ac y gall fod yn ymgeisydd mewn sedd lle mae eisiau bod, dyna'r flaenoriaeth iddyn nhw ac nid oes ots beth arall sy'n digwydd."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais am ymateb.