麻豆官网首页入口

'Anghyffyrddus, ond cydweithio yw'r peth cywir i wneud'

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid ystyried cydweithio "yn yr etholiad yma yn unig", medd Helen Mary Jones, er y byddai hynny'n anodd i ymgyrchwyr ac ymgeiswyr sy'n cael cais i dynnu'n 么l

Mae AC Plaid Cymru wedi dweud nad ydy hi'n "hollol gyffyrddus" gyda'r syniad o gydweithio gyda phleidiau eraill sy'n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr etholiad cyffredinol, ond yn dweud mai dyna'r "peth cywir i wneud".

Dywed Helen Mary Jones ei bod yn cydnabod "na fydd yn hawdd" i ymgyrchwyr ac ymgeiswyr sy'n cael cais i dynnu'n 么l petai yna gytundeb rhwng y pleidiau.

Mae ffynonellau o fewn Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod trafodaethau'n digwydd i drafod y posibilrwydd o gytundeb.

Daeth y tair plaid i ddealltwriaeth ar gyfer isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed er mwyn osgoi rhannu pleidleisiau etholwyr sy'n gwrthwynebu Brexit.

Doedd dim ymgeiswyr Plaid Cymru na'r Blaid Werdd yn yr isetholiad hwnnw, a gafodd ei ennill gan Jane Dodds ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Er gwaethaf adroddiadau bod y pleidiau wedi dod i gytundeb ehangach ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr, mae'r trafodaethau'n parhau o fewn a rhwng y pleidiau, yn 么l y ffynonellau.

'Rhaid egluro'n ofalus'

Dywedodd Ms Jones, AC rhanbarthol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: "Dydi hi ddim o hyd yn hawdd cydweithio gyda phobl o bleidiau gwahanol ac yn amlwg mae gyda ni safbwyntiau gwahanol, yn enwedig rhyngom ni a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Ond dydw i ddim yn hollol gyffyrddus. Dwi'n yn meddwl bod unrhyw un yn, ond ar yr achlysur yma dydy e ddim yn ymwneud 芒 finnau neu unrhyw un arall yn teimlo'n gyffyrddus.

"Mae wnelo hyn ag a gallwn ni sicrhau digon o ASau i atal Brexit a fyddai mor ddinistriol i Gymru ac i wneud hynny, mae'n rhaid i ni oddef ychydig o anesmwythder, efallai."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd dim ymgeiswyr Plaid Cymru na Phlaid Werdd pan gipiodd Jane Dodds (chwith) sedd Bycheiniog a Sir Faesyfed

Pan ofynnwyd a fyddai tynnu rhai ymgeiswyr yn 么l mewn rhai etholaethau Cymreig yn tanseilio Plaid Cymru, atebodd Ms Jones: "Mae'n rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ei egluro'n ofalus iawn i bobl oherwydd fydd e ddim yn hawdd.

"Fyddai ddim yn hawdd i ymgyrchwyr sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed mewn etholaethau, fydd e ddim yn hawdd os fydd rhaid gofyn i rai ymgeiswyr, sydd eisoes wedi'u dewis ac wedi dechrau ar y gwaith, sefyll i lawr.

"Ond mae'r sefyllfa'n wirioneddol ddifrifol. Does dim math o Brexit sy'n mynd i osgoi niwed difrifol i'n heconomi, cymunedau gwledig, amgylchedd a dyfodol ein pobl ifanc, ac yn yr etholiad yma, a'r etholiad yma yn unig, rhaid gwneud popeth posib i atal y trychineb yna."

Ddydd Gwener, fe wnaeth Boris Johnson wrthod y syniad o gydweithio 芒 Phlaid Brexit ar gyfer yr etholiad.

Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i alwad gan arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage i gefnu ar gytundeb diweddaraf y DU gyda'r UE, uno mewn "clymblaid Gadael" neu wynebu her gan ymgeisydd Plaid Brexit ym mhob etholaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi gwrthod y posibilrwydd o ddod i gytundeb gyda phleidiau eraill, ac mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud nad yw'r syniad "yn reddfol, yn apelio".