Etholiad Cyffredinol 2019: Canllaw syml

Disgrifiad o'r llun, Palas San Steffan yw cartref llywodraeth y DU

Mae prif bleidiau'r DU yn paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Mae etholiadau cyffredinol i ddewis llywodraeth i fod i gael eu cynnal bob pum mlynedd, ond dyma'r trydydd etholiad ers 2015.

Bydd cyfanswm o 650 o bobl yn cael eu dewis yn Aelodau Seneddol (ASau), i benderfynu ar ddeddfau a pholis茂au.

Mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol gan bleidleiswyr i gynrychioli buddiannau eu hetholaeth yn Nh欧'r Cyffredin. Mae'r rhan fwyaf yn perthyn i blaid wleidyddol, ond mae rhai yn sefyll fel aelodau annibynnol.

Mae 650 o ASau yn y T欧. Mae gan Gymru 40 o ASau, gan fod gan Gymru 40 o etholaethau.

Caiff ASau eu hethol i D欧'r Cyffredin, un o'r ddwy siambr seneddol yn Llundain, sy'n gartref i lywodraeth y DU.

Beth sy'n poeni pleidleiswyr fwyaf - Brexit neu'r Gwasanaeth Iechyd?

Mae cynigion manwl ar bopeth - o'r economi i amddiffyn a phlismona - wedi'u nodi mewn maniffestos cyn unrhyw etholiad cyffredinol.

Yn y b么n, llyfryn yw maniffesto sy'n cynnwys holl syniadau a pholis茂au'r pleidiau. Gan amlaf, caiff maniffestos eu cyhoeddi yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol. Os yw plaid yn ennill yr etholiad, mae'n aml yn cael ei barnu yn 么l faint o addewidion y maniffesto y mae'n llwyddo i'w cyflawni fel llywodraeth.

Daw'r addewidion hyn gan bleidiau gwleidyddol y DU - grwpiau o bobl sy'n credu yn yr un materion gwleidyddol ac yn dod at ei gilydd i geisio ennill grym.

Mae'r materion y mae pleidleiswyr y DU yn poeni fwyaf amdanyn nhw wedi newid cryn dipyn, yn 么l yr arolygon barn.

Mae Brexit wedi dod yn bwnc mawr ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o'r llun, Mae 'Brexit' wedi dod yn bwnc pwysig i etholwyr

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a mewnfudo oedd y pethau oedd yn peri'r pryder mwyaf i bleidleiswyr yn 2015.

Y GIG - a sefydlwyd yn 1948 - yw'r gwasanaeth gofal iechyd cenedlaethol sy'n cael ei ariannu gan y llywodraeth i ddarparu diagnosis a thriniaeth am ddim i ddinasyddion y DU.

Roedd llawer llai o ddiddordeb yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), sef undeb gwleidyddol ac economaidd 28 o aelod-wladwriaethau y mae'r DU yn bwriadu ei adael.

Nawr, fodd bynnag, Brexit - sef ymadawiad y DU 芒'r UE - yw'r mater mwyaf o bell ffordd.

Ffordd gryno o ddweud 'British exit' yw Brexit, ac mae'n cyfeirio at y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Pam cael etholiad nawr?

Bron i dair blynedd a hanner ar 么l i'r DU bleidleisio dros Brexit yn refferendwm 2016, nid yw hynny wedi digwydd.

Yn refferendwm Mehefin 2016, pleidleisiodd y DU 52% i 48% i adael yr UE. Yn wreiddiol, dyddiad gadael y DU oedd 29 Mawrth 2019 ac yna 31 Hydref 2019. Erbyn hyn, y dyddiad yw 31 Ionawr 2020 oni bai y gellir cytuno ar fargen ymadael yn gynharach.

Mae gwahaniaeth barn rhwng gwleidyddion: mae rhai eisiau i'r DU adael yr UE cyn gynted 芒 phosib, byddai'n well gan rai refferendwm arall, ac eraill i ganslo Brexit yn gyfan gwbl.

Disgrifiad o'r llun, Dyma fydd y trydydd etholiad cyffredinol ers 2015

Nid oes gan y Prif Weinidog Boris Johnson ddigon o ASau i basio deddfau newydd yn hawdd.

Daeth Boris Johnson yn brif weinidog y DU ym mis Gorffennaf 2019, gan olynu Theresa May yn 10 Downing Street. Yn y gorffennol, gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Tramor Mrs May a chyn hynny roedd yn faer Llundain pan gynhaliodd y ddinas Gemau Olympaidd 2012.

Cyn dod yn AS, yn 2001, Mr Johnson oedd golygydd y cylchgrawn Spectator, a bu yn y r么l honno tan 2005, pan ddaeth yn weinidog addysg uwch yr wrthblaid.

Mae'n gobeithio y bydd etholiad cynnar yn cynyddu nifer yr ASau Ceidwadol, sy'n golygu y bydd ei gynlluniau Brexit yn haws i'w cyflawni.

Roedd disgwyl i'r etholiad cyffredinol nesaf fod yn 2022, ond mae Senedd San Steffan bellach wedi cytuno i gynnal etholiad cynnar.

Sut mae'r pleidleisio'n gweithio?

Mewn etholiad cyffredinol, mae 46 miliwn o bleidleiswyr y DU yn cael eu gwahodd i ddewis AS ar gyfer eu hardal - un o 650 o etholaethau.

Gall unrhyw un sy'n 18 oed neu'n h欧n bleidleisio, cyhyd 芒'u bod wedi'u cofrestru ac yn ddinasyddion Prydeinig neu'n ddinasyddion cymwys y Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon.

Disgrifiad o'r llun, Bydd 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i eistedd yn Nh欧'r Cyffredin

Mae pobl h欧n yn fwy tebygol o bleidleisio na phobl ifanc.

Yn etholiad cyffredinol 2017, pleidleisiodd 59% o bobl 20 i 24 oed, o'i gymharu 芒 77% o bobl 60 i 69 oed.

Mae'r pleidleisio'n digwydd mewn gorsafoedd pleidleisio lleol, wedi'u sefydlu mewn llefydd fel eglwysi a neuaddau ysgol. Mae pleidleiswyr yn rhoi croes ar y papur pleidleisio wrth ochr enw'r ymgeisydd o'u dewis ac yn gollwng y papur i'r blwch pleidleisio sydd wedi'i selio.

Sut mae'r enillwyr yn cael eu dewis?

Yr ymgeisydd sydd 芒'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob etholaeth sy'n cael ei ethol/hethol i D欧'r Cyffredin.

Er mwyn ennill, yn syml, mae angen mwy o bleidleisiau arnyn nhw nag unrhyw un maen nhw'n sefyll yn ei erbyn. Gallent dderbyn llai na hanner y pleidleisiau yn eu hetholaeth.

Mae'r rhan fwyaf o ASau yn cynrychioli plaid wleidyddol ond mae rhai yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.

Mae unrhyw blaid sydd 芒 mwy na hanner yr ASau (326) yn Nh欧'r Cyffredin fel arfer yn ffurfio'r llywodraeth. Gall pleidiau sydd ymhell o dan 50% o'r bleidlais gipio grym o ganlyniad i system bleidleisio'r DU.

Disgrifiad o'r llun, T欧'r Arglwyddi yw ail siambr llywodraeth y DU

Mae'r DU yn defnyddio system bleidleisio cyntaf i'r felin. Mae'n golygu mai'r ymgeisydd lleol sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill - a'r blaid sydd 芒'r nifer fwyaf o ymgeiswyr llwyddiannus sy'n ffurfio llywodraeth. Felly nid yw nifer y pleidleisiau y mae pleidiau yn eu derbyn yn cael effaith ar bwy sy'n ennill yr etholiad.

Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif o ASau, gall yr un sydd 芒'r mwyaf ffurfio clymblaid - neu bartneriaeth - gydag un neu fwy o bleidiau eraill i ennill rheolaeth.

Nid yw'r cyhoedd yn pleidleisio'n uniongyrchol dros y Prif Weinidog. Mae'n cael ei ddewis/dewis gan ASau'r blaid fuddugol a phenodir y Prif Weinidog gan y Frenhines, ac mae'n ddyletswydd arni i ddilyn eu cyngor.

Beth ddigwyddodd yn yr etholiad diwethaf yn 2017?

Y Ceidwadwyr neu'r Blaid Lafur sydd wedi ennill pob etholiad ers 1922.

Dyna'r ddwy blaid fwyaf yn etholiad 2017, ond nid oedd gan y naill na'r llall ddigon o ASau i lunio llywodraeth fwyafrifol. Y Ceidwadwyr oedd y blaid fwyaf ac fe wnaethant weithio mewn partneriaeth 芒'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) er mwyn ennill pleidleisiau yn Nh欧'r Cyffredin.

Ers yr etholiad, mae'r Ceidwadwyr a Llafur wedi colli ASau, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y prif weinidog newydd yn symud i rhif 10 Downing Street ar 13 Rhagfyr

Ail siambr y Senedd yw T欧'r Arglwyddi.

T欧'r Arglwyddi yw ail siambr Senedd y DU. Mae'n annibynnol o D欧'r Cyffredin ond mae'n rhannu'r r么l o lunio deddfau, tra hefyd yn craffu gwaith y llywodraeth. Mae aelodau yn cael teitl fel Arglwydd, nid ydynt yn cael eu hethol, nid ydynt yn cynrychioli etholaethau ac nid yw'r mwyafrif yn perthyn i unrhyw blaid.

Nid yw aelodau'r T欧'r Arglwyddi yn cael eu hethol ond fe'u penodir gan y Frenhines, ar gyngor y Prif Weinidog.

Pwy sy'n gallu sefyll i fod yn Aelod Seneddol?

Os ydych chi'n 18 oed neu'n h欧n ar ddiwrnod yr etholiad, gall y rhan fwyaf o bobl sefyll fel ymgeisydd, cyn belled 芒'ch bod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon sy'n byw yn y DU.

Rhaid iddyn nhw hefyd dalu blaendal o 拢500, a fydd yn cael ei golli os na fyddan nhw'n cael o leiaf 5% o'r bleidlais yn eu hetholaeth.

Rhaid i ymgeiswyr fodloni rhai amodau - ni all carcharorion, gweision sifil, barnwyr ac aelodau'r heddlu a'r lluoedd arfog sefyll.

Pryd fyddwn ni'n gwybod y canlyniad?

Ar ddiwrnod etholiad cyffredinol, bydd y pleidleisio'n digwydd rhwng 07:00 a 22:00. Mae'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi dros nos a'r diwrnod canlynol.

Pan fyddwn yn gwybod y canlyniad, mae arweinydd y blaid fuddugol, os oes un, yn ymweld 芒 Phalas Buckingham i ofyn i'r Frenhines am ganiat芒d i lunio llywodraeth newydd.

Unwaith bydd ganddyn nhw hynny, sy'n fater o ffurfioldeb, maen nhw'n dychwelyd i gartref traddodiadol y Prif Weinidog yn 10 Downing Street.

Yn aml, byddan nhw'n sefyll y tu allan i draddodi araith am gynlluniau eu plaid ar gyfer y blynyddoedd i ddod.