麻豆官网首页入口

Enwogion yn galw am enw uniaith Gymraeg i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
angharad mair, michael sheen, nigel owens, cerys matthews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Angharad Mair, Michael Sheen, Cerys Matthews a Nigel Owens

Mae nifer o enwogion blaenllaw yng Nghymru gan gynnwys Michael Sheen, Nigel Owens a Cerys Matthews wedi arwyddo llythyr agored yn galw am enw Cymraeg yn unig i'r Senedd.

Fis diwethaf fe wnaeth Aelodau Cynulliad gefnogi cynnig y cyn-brif weinidog Carwyn Jones i gael enw dwyieithog i'r sefydliad, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament.

Ond cafodd hynny ei wrthwynebu gan Blaid Cymru, gyda'u harweinydd Adam Price yn dweud y byddai enw Cymraeg yn "perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru".

Gyda phleidlais arall ar y mater yr wythnos nesaf, mae dros 30 o ffigyrau cyhoeddus wedi arwyddo'r llythyr yn galw ar ACau i ailfeddwl.

'Enw cwbl naturiol'

Yn eu plith mae cerddorion gan gynnwys Cian Ciaran, Lleuwen Steffan, Kizzy Crawford a Bryn F么n, cyflwynwyr fel Angharad Mair, Huw Stephens a Tudur Owen, ac actorion megis Ffion Dafis a Siw Hughes.

Yn 么l y llythyr, byddai enw uniaith Gymraeg ar "ein sefydliad cenedlaethol pwysicaf yn anfon neges o bwys o ran y statws canolog ac arbennig rydym yn dymuno i'r iaith ei hawlio ym mywyd cyhoeddus y wlad".

"Mae hwn yn gyfle i ddangos bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb, ac yn cynnwys pawb o bob cefndir.

"Mae 'Senedd' yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y rhan fwyaf o bobl eisoes, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Mae hynny'n gwbl naturiol gan ei fod yn adlewyrchu profiadau pawb sy'n byw yng Nghymru lle mae'r iaith yn gweu'n naturiol i'w bywydau beunyddiol - o enwau trefi a phentrefi sydd ag enwau uniaith Gymraeg i eiriau'r anthem genedlaethol."

Llofnodion y llythyr:

Michael Sheen, Actor; Gwyneth Lewis, Bardd; Huw Stephens, Darlledwr; Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru 2019-21; Cian Ciaran, Cerddor; Rhys Mwyn, Cerddor a Darlledwr; Angharad Mair, Cyflwynydd; Ffion Dafis, Actor; Catrin Dafydd, Awdur; Tudur Owen, Digrifwr; Lleuwen Steffan, Cerddor; Aled Jones Williams, Dramodydd ac awdur; Gwyneth Glyn, Cerddor; Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru; Kizzy Crawford, Cerddor; Dewi Pws Morris, Cerddor; Ani Saunders, Cerddor; Siw Hughes, Actores; Geraint Lovgreen, Cerddor; Bryn F么n, Cerddor; Steve Eaves, Cerddor; Merched y Wawr; Undeb Bedyddwyr Cymru; Brian Jones, Is-gadeirydd CND Cymru; Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC; Lleucu Myrddin, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor; Jacob Morris, Swyddog Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Tomos Ifan, Llywydd UMCA; Sue Jones-Davies, Actores; Nigel Owens, Dyfarnwr Rygbi; Cerys Matthews, Cerddor a Darlledwraig; Anthony Evans, Arlunydd; Twm Morys, Cerddor.