麻豆官网首页入口

Cynllun morol y llywodraeth yn 'torri tir newydd'

  • Cyhoeddwyd
Offshore wind development off north Wales coastFfynhonnell y llun, AlasdairJames/Getty Images

Mae rheolau cynllunio newydd ar gyfer datblygwyr sydd eisiau adeiladu yn y m么r wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Y bwriad yw rhoi hwb i gynlluniau ynni adnewyddadwy, tra'n diogelu bywyd gwyllt.

Yn 么l y gweinidog amgylchedd Lesley Griffiths fe fyddai'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn rhoi Cymru ar flaen y gad wrth daclo newid hinsawdd.

Ond, yn wahanol i'r fersiwn ddrafft, nid yw'n pennu ardaloedd penodol lle mae 'na botensial am fwy o ddatblygu.

'Moroedd prysur'

Daw hyn yn dilyn beirniadaeth gan elusennau amgylcheddol, fydd bellach yn rhan o'r broses o benderfynu lle bydd yr hyn sy'n cael eu galw'n ardaloedd strategol yn cael eu lleoli.

Mae'r moroedd o amgylch Cymru'n mynd yn fwy a mwy prysur, gyda gwahanol ddefnyddwyr yn cystadlu am le a defnydd o adnoddau naturiol.

Serch hynny, tan nawr does 'na ddim llyfr rheolau cyffredinol wedi bodoli ar gyfer rheoli'r amgylchedd morol.

Yn draddodiadol, mae anghenion gwahanol sectorau fel pysgota, twristiaeth neu ynni wedi'u delio 芒 nhw ar wah芒n.

Dyna pam fod y cynllun yma'n cael ei ddisgrifio fel un sy'n "torri tir newydd" gan weinidogion, gan taw ei fwriad yw bod yn "siop un stop" ar gyfer penderfyniadau cynllunio yn y m么r.

Bydd rhaid i bawb sydd eisiau gweithredu yn nyfroedd Cymru - o ffermwyr cregyn gleision i longau cargo - ddefnyddio'r ddogfen.

Bydd hefyd yn allweddol i awdurdodau lleol a chyrff eraill sy'n cymeradwyo ceisiadau cynllunio yn y m么r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Lesley Griffiths fe fyddai'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn rhoi Cymru ar flaen y gad wrth daclo newid hinsawdd

Y gobaith yn y pen draw yw gwneud y gorau o botensial y m么r i greu swyddi, tyfu'r economi a darparu trydan gl芒n - tra hefyd yn gwella'r amgylchedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Ond mae taro cydbwysedd rhwng hynny yn anodd - ac roedd y cynlluniau drafft wedi cythruddo rhai elusennau amgylcheddol fel y Gymdeithas Gadwraeth Forol a'r RSPB oedd wedi honni nad oedd digon o ffocws ar ddiogelu bywyd morol.

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod wedi gweithio'n agos gyda nhw i addasu ei chynlluniau a gwneud newidiadau.

Er enghraifft, tra bo'r cynllun newydd yn dal i ffafrio'r syniad o sefydlu cyfres o forlynnoedd llanw o amgylch arfordir Cymru mae'n gwneud yn glir y dylid astudio'r holl dystiolaeth yngl欧n 芒'r effaith amgylcheddol posib mewn manylder.

'Effaith negyddol'

Mae ardal y cynllun morol yn cynnwys 12,350 milltir sgw芒r o f么r a 1,300 milltir o arfordir.

Y syniad yw y bydd yn gweithio ar y cyd 芒'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd, sy'n ddogfen debyg ond ar gyfer datblygiadau ar y tir.

Y gobaith yw y byddan nhw'n cynghori ar ddatblygiadau am yr 20 mlynedd nesaf.

Dywedodd Ms Griffiths fod hyn yn "gam cyntaf wrth sicrhau bod ein moroedd yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial, heb gael effaith negyddol ar ein hamgylchedd morol ac arfordirol".

Ychwanegodd Rhian Jardine, pennaeth datblygu cynllunio a gwasanaethau morol, bod hyn yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru er mwyn helpu cefnogi a sicrhau gweithgarwch gwbl gynaliadwy yn y m么r, sydd ar y raddfa gywir ac yn y lleoliad cywir."