麻豆官网首页入口

Mis Hydref prysuraf erioed i unedau damwain a brys Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adran frys

Roedd unedau damweiniau a brys ysbytai Cymru dan bwysau unwaith eto ym mis Hydref a'u perfformiad yn brin o'r nod o ran amseroedd aros.

75.3% o gleifion gafodd eu derbyn, trosglwyddo neu ryddhau o'r ysbyty o fewn pedair awr. 95% yw'r targed.

Mae'r ganran yn agos i ffigwr mis Medi, pan gofnodwyd y ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed.

Roedd yna ostyngiad yn nifer y cleifion fu'n rhaid aros am dros 12 awr - 5581 ym mis Hydref o'i gymharu 芒 5708 ym Medi - ond doedd perfformiad Hydref 2019 ddim cystal ag un Hydref 2018 ar y ddau fesur.

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos gwaethygiad ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans o ran ymateb i'r galwadau 999 mwyaf brys lle gall bywyd fod mewn perygl.

Fe gyrhaeddodd ambiwlans o fewn wyth munud mewn ymateb i alwad 'coch' mewn 66.3% o achosion fis diwethaf - sy'n dal yn curo'r targed o 65% - ond 74.7% oedd y ffigwr fis Hydref y llynedd.

'Cyfnodau heriol i'w disgwyl dros y gaeaf'

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r gwasanaeth yn ymdopi 芒 chynnydd o 35% ers 2015 yn nifer galwadau coch.

Dywedodd llefarydd: "Y mis diwethaf oedd y mis Hydref prysuraf erioed yn 么l y cofnodion ar gyfer unedau brys yng Nghymru ac fe gafodd y gwasanaeth ambiwlans y mis mwyaf prysur erioed o ran y galwadau 'coch' mwyaf difrifol.

"Serch hynny, mae amseroedd aros mewn adrannau brys ar gyfartaledd wedi aros yn sefydlog, ac mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi curo'i darged am y 49fed mis yn olynol."

Dywedodd y llefarydd bod yna ostyngiad ym mis Hydref yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion.

Ychwanegodd wedyn bod Llywodraeth Cymru "wedi darparu 拢30m ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn gynharach [yn y flwyddyn] nag erioed o'r blaen" i'w helpu i gryfhau'r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol mewn ymateb i bwysau ychwanegol dros gyfnod y gaeaf.

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall bod yna gynlluniau wrth gefn i fod "mor barod a gwydn 芒 phosib drwy'r gaeaf" ond bod profiadau diweddar yn gwneud hi'n glir "y bydd yna gyfnodau heriol".

Er gwaethaf camau'r GIG i geisio atal salwch yn y lle cyntaf, gan gynnwys ehangu'r rhaglen brechiadau ffliw GIG, mae rhai ffactorau "allan o'n dwylo", meddai Dr Goodall ac fe fydd "lefel uchaf o bobl h欧n yn dod trwy'r system ym misoedd y gaeaf".