麻豆官网首页入口

'Yn groes i adroddiadau, dydy ein pentref ni ddim ar werth'

  • Cyhoeddwyd
Martin Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Martin Jones yn dweud fod adroddiadau bod y pentref cyfan ar werth yn "gwbl anghywir"

Nid yw Aberllefenni, pentref ger Machynlleth, ar werth.

Dyna'r neges gan drigolion lleol sydd wedi eu cythruddo ar 么l i rai papurau newydd honni bod y pentref cyfan ar y farchnad.

Mae 16 o dai ar werth ar hyn o bryd, gydag oddeutu 40 o dai yn y pentref i gyd.

Yn 么l pobl leol, mae adrodd bod y pentref cyfan ar werth yn "gwbl anghywir".

Ffynhonnell y llun, MailOnline
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai o drigolion Aberllefenni yn anhapus gyda phenawdau fel yr un yma

Un sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd ei oes ydy Martin Jones, sy'n teimlo bod y pentref "yn llawer mwy na chasgliad o dai cerrig".

"Mae'r rhan fwyaf o'r pentref yn eiddo i'r perchnogion sy'n byw yn y tai," meddai. "Mae'r sylw yma yn y wasg yn gwbl anghywir.

"Maen nhw'n dweud bod y pentref cyfan ar werth, dim ond 16 sydd ar werth mewn gwirionedd.

"Nid yw'r rhan fwyaf o'r tai ar werth. Mae 'na gymuned fywiog yma, sy'n gymaint mwy na chasgliad o dai.

"Pan fydd y tai yn gwerthu yn y pen draw, bydd y gymuned fywiog yna yn dal i fodoli yma."

Heb werthu achos Brexit?

Mae hanes diwydiannol y gwaith llechi yn Aberllefenni yn dyddio'n 么l i'r 16eg ganrif.

Mae'r 16 t欧 sy'n cael eu gwerthu yn rhan o'r hanes hwnnw am mai tai i weithwyr y chwarel oedd y rhain.

Yn 2015, fe gafodd yr eiddo i gyd eu rhoi ar y farchnad gan Waith Llechi Inigo Jones. Hyd yma, nid yw'r tai wedi eu gwerthu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r tai sydd ar werth yn Aberllefenni yn costio 拢1.25m

Yn cael eu rhestru gyda'i gilydd am 拢1.25m, a hynny ers 2015, mae Dafydd Hardy yn rhwystredig gydag effeithiau Brexit ar y farchnad dai.

"Dydy'r listing heb werthu achos Brexit. Mae'r farchnad yn golygu bod pobl ddim efo gymaint o hyder i wneud penderfyniadau," meddai.

"Does dim dwywaith amdani, os mae rhywun yn mynd i fuddsoddi maen nhw isio gwneud yn si诺r bod y dyfodol yn mynd i fod yn un disglair.

"Felly, maen nhw'n mynd i aros nes bod popeth efo Brexit wedi ei sortio."