Cyhoeddi 拢243m ar gyfer y sector amaeth yn 2020

Fe fydd y sector amaeth yng Nghymru derbyn cymhorthdal o 拢243m ar gyfer y 2020.

Cafodd yr arian, sy'n dod o goffrau Llywodraeth y DU, ei gadarnhau gan Weinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths.

Dywedodd Ms Griffiths ei fod golygu bydd amaeth yng Nghymru'n cael taliad ar yr un lefel ag yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ond galwodd hefyd am fwy o sicrwydd o beth fydd yn digwydd yn sgil Brexit.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lesley Griffiths yn galw am sicrwydd ariannol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. "

"Mae Cymru wedi elwa o flynyddoedd lawer o fuddsoddiad Ewropeaidd, gan gynnwys mewn amaethyddiaeth a datblygiad gwledig," meddai.

"Mae hyn yn hanfodol bwysig i ffermwyr Cymru ac i gymunedau gwledig.

"Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Drysorlys EM ond gadewch i ni fod yn glir, dim ond cadarnhau ymrwymiadau a wnaed eisoes yw hyn.

"Hoffwn alw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, ac i addo cyllid yn lle'r cyllid presennol gan yr UE ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. "

'Ymroddiad'

Cafodd y cyhoeddiad yngl欧n 芒'r arian hefyd ei groesawu gan Ysgrifennydd Cymru Simon Hart.

"Mae'r cyllid yn dangos ymroddiad Llywodraeth y DU er mwyn rhoi sicrwydd a chefnogaeth i ffermwyr Cymru," meddai.

"Mae hefyd yn dangos y cyfleoedd eang sydd ar gael wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae cael rheolaeth yn 么l o'r arian yma yn ein galluogi i gynrychioli yn well y bobl rydym yn eu gwasanaethu, gan sicrhau fod gan ein cymunedau amaethyddol yr hyn sydd ei angen i lwyddo ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd."