麻豆官网首页入口

Ysbytai Cymru 'dan fwy o bwysau nag erioed'

  • Cyhoeddwyd
(o'r chwith): Llwyhelyg, Tywysog Philip, Bronglais a GlangwiliFfynhonnell y llun, JOHN LUCAS/GEOGRAPH/GOOGLE
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawdriniaethau wedi'u canslo yn ysbytai (o'r chwith uchaf gyda'r cloc) Llwynhelyg, Tywysog Phillip, Bronglais a Glangwili

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru o dan fwy o bwysau nag erioed, yn 么l ffigwr blaenllaw yn y maes.

Yn 么l Helen Whyley, cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, mae hi'n siarad gydag aelodau yn rheolaidd ledled Cymru a bod "y pwysau yn fwy nag y bu erioed".

Daw ei sylwadau ar 么l i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ganslo llawdriniaethau a oedd wedi cael eu cynllunio mewn pedwar ysbyty am yr ail ddiwrnod yn olynol yn dilyn "penwythnos anghyffredin" o bwysau ychwanegol.

Yn 么l Llywodraeth Cymru maen nhw wedi rhoi 拢30m i fyrddau iechyd i ddarparu capasiti ychwanegol y gaeaf hwn.

Dywedodd y BMA yng Nghymru - y corff sy'n cynrychioli meddygon - ei fod yn pryderu y gallai bywydau gael eu colli oni bai fod gweithredu brys i fynd i'r afael 芒 phwysau'r gaeaf.

"Mae yna nifer o resymau cymhleth am y pwysau," ychwanegodd Ms Whyley.

"Yr hyn y mae'n ei olygu yw, ar y rheng flaen i staff bob dydd, ei bod yn frwydr go iawn i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt."

Galwodd ar i "bawb i ymgynnull" i weld "beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod y pwysau hyn yn llacio" ledled Cymru.

'Pethau'n gwaethygu, nid yn gwella'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod "pwysau dwys" wedi cael ei deimlo ar draws adrannau damweiniau ac achosion brys pob un o'i ysbytai, meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol dros y penwythnos.

Ddydd Mawrth dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod nhw'n eithriadol o brysur, a'u bod nhw'n rhoi blaenoriaeth i lawdriniaethau brys, tra bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud nad oedden nhw'n wynebu anhawsterau annisgwyl er ei bod hi'n brysur arnyn nhw hefyd.

Yn 么l aelod o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru mae aelodau'n "bryderus iawn am y pwysau sy'n wynebu GIG Cymru ar hyn o bryd".

"Mae'n glir o'r datblygiadau diweddaraf bod pethau'n gwaethygu, nid yn gwella," meddai Dr Phil Banfield.

"Mae cleifion yn cael eu gadael mewn sefyllfa annioddefol a bydd gofal yn dioddef os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud ar unwaith."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ddydd Mawrth roedd sawl ambiwlans i'w gweld yn ciwio y tu allan i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth

Yn 么l Ceri Phillips, sy'n athro economeg iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, "nid yw pwysau'r gaeaf yn beth newydd" ond bod mynd i'r afael 芒 derbyniadau i'r ysbyty sydd heb eu cynllunio yn "anodd iawn".

Yn 么l Llywodraeth Cymru maen nhw wedi rhoi 拢30m i fyrddau iechyd i ddarparu capasiti ychwanegol y gaeaf hwn.

Dywedodd Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, fod pwysau ychwanegol - fel cleifion ysbyty na ellir eu rhyddhau i'r gymuned - wedi creu "argyfwng go iawn" i staff a chleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

"Rydyn ni'n gwario llawer iawn o'n cyllideb ar iechyd, yn gywir, yma yng Nghymru ... ond rydyn ni'n dal i beidio 芒 gwneud pethau'n iawn ac ni ellir caniat谩u i hynny barhau," meddai.

Mae'n galw am ganiatau i fyrddau iechyd Cymru rannu staff er mwyn cyfuno adnoddau.

Canslo mwy o driniaethau

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda ganslo llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Glangwili, y Tywysog Philip ac yn Llwynhelyg ddydd Llun a dydd Mawrth "er budd diogelwch cleifion".

Maent wedi rhybuddio eisoes y bydd rhai llawdriniaethau oedd wedi'u trefnu o flaen llaw yn cael eu canslo ddydd Mercher, gan flaenoriaethu triniaethau brys a rhai canser.

Maen nhw hefyd yn gofyn i gleifion ddefnyddio gwasanaethau eraill ble fo hynny'n bosib ac i beidio mynd i uned frys ysbyty os nad oedd rhaid.

Dywedodd uwch-reolwyr y byddai staff yn cael eu hadleoli lle roedd angen cymorth ychwanegol, gan gynnwys cysylltu 芒'r rhai a oedd ar wyliau.