Cyflyrau croen: 'Angen mwy o gymorth i ddioddefwyr'

Disgrifiad o'r fideo, Yn 么l Ffion Rees mae angen mwy o drafodaeth ar yr effeithiau seicolegol posib

"Dwi ddim eisiau defnyddio'r gair 'iselder' ond yn bendant mae'n gwneud i chi deimlo'n isel."

Dyna ddisgrifiad Ffion Rees, cynhyrchydd radio 27 oed o Abertawe, sydd wedi dioddef o broblemau gyda psoriasis.

Mae cyflyrau'r croen, sydd hefyd yn cynnwys cyflyrau tebyg i ecsema, acne a dermatillomania yn effeithio tua 13 miliwn o bobl yn y DU.

Fe wnaeth arolwg diweddar awgrymu nad oes digon o gymorth iechyd meddwl yn cael ei roi i ddioddefwyr.

Yn 么l Coleg Feddygol Meddygon Teulu yng Nghymru dyw amseroedd apwyntiadau ddim wastad yn caniat谩u i agweddau iechyd meddwl gael eu trafod.

Ond ychwanegodd llefarydd fod perthynas barhaol gyda meddyg yn fodd o sicrhau fod problemau o'r fath yn cael eu nodi a'u trin.

Ffynhonnell y llun, Ffion Rees

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ffion Rees fod achos sydyn yn gallu achosi rhywun i fod eisiau aros yn y gwely

Fe wnaeth Ffion, 27 oed, ddioddef gyda psoriasis yn ei harddegau.

Mae hi'n canmol y driniaeth wnaeth hi dderbyn, ond mae'n dweud na fu trafodaeth ar gyfer effeithiau seicolegol posib.

"Dwi'n meddwl byddai cymryd amser - rhywbeth dwi'n gwybod sy'n brin ym myd doctoriaid - i drafod pethau yn iawn yn hynod o bwysig, yn enwedig i berson ifanc."

Un arall sydd wedi dioddef o broblemau gyda'i chroen yw Phaedra Longhurst, 27 oed.

"Ro'n ni'n teimlo cywilydd a dwi dal yn gwneud os yw'r cyflwr yn ailgodi."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Phaedra Longhurst mae "lot o stigma yn parhau"

Mae Phaedra wedi dioddef gydag ecsema ers yn blentyn, ac yna acne yn ei 20au gan ddatglybu dermatillomania tra yn y brifysgol.

"Fe wnaeth o effeithio arnaf i yn seicolegol, yn fwy nag o'n i'n sylwi ar y pryd," meddai.

"Yn bersonol dwi'n teimlo nad ydw i wedi cael digon o gefnogaeth yn seicolegol.

"Mae 'na lot o stigma yn parhau yn erbyn y rhai sydd 芒 chyflwr croen, ac mae 'na ddiffyg dealltwriaeth mawr yngl欧n 芒 dermatillomania."

Beth yw dermatillomania?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn pigo eu croen o dro i dro, ond mae cyflwr dermatillomania yn golygu nad ydych yn gallu rhoi'r gorau i wneud hyn.

Gallai'r cyflwr achosi i'r croen dorri, gwaedu neu gleisio a hyn weithiau yn ddiarwybod i'r unigolyn.

Mae'n bosib i'r dioddefwr bigo mwy os ydynt dan bwysau neu'n bryderus.

Dywedodd Phaedra ei fod yn gallu bod yn gyflwr dieflig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Phaedra, sy'n fyfyriwr ym mhrifysgol De Cymru, yn dweud ei bod nawr yn astudio cwrs mewn dermatoleg er mwyn helpu eraill sy'n dioddef o gyflyrau cronig.

Mewn arolwg gan y British Skin Foundation yn 2019 fe wnaeth naw o bob 10 dermatolegydd ddweud nad oedd digon o bwyslais yn cael ei roi gan y gwasanaethau iechyd ar effeithiau seicolegol cyflyrau'r croen.

Dywedodd Dr Girish Patel, llefarydd ar ran Cymdeithas Croen Prydain: "Allwch chi ddim just edrych ar effeithiau corfforol y cyflwr.

"Mae'n rhaid edrych yn fwy eang ac yn hwy holistig a sylwi fod y cyflwr yn gysylltiedig gyda phwysau seicolegol neu seiciatryddol."

Cydnabod effeithiau seicolegol

Yn 么l Dr Mair Hopkin, cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu yng Nghymru, roedd y sefydliad yn cydnabod fod yna effeithiau seicolegol ar gleifion sy'n dioddef o gyflyrau o'r fath, a bod hwn yn rhan o arholiad ar gyfer ymuno 芒'r Coleg.

"Fel arfer mae meddygon teulu yn cael apwyntiadau sy'n para 10 munud, a dyw hynny ddim yn rhoi digon o amser i ymdrin ag agweddau corfforol yr afiechyd ynghyd 芒 phroblemau seicolegol posib," meddai.

"Dyna pam fod perthynas parhaol gyda meddygfa yn gallu bod o gymorth gwirioneddol.

"Maen nhw'n dod i'ch adnabod dros gyfnod o amser ac yn gallu sylwi pe bai chi dan bwysau neu'n teimlo'n isel."

Ychwanegodd Dr Hopkin ei bod yn bwysig hefyd bod cleifion yn s么n am unrhyw broblemau iechyd meddwl gyda'r meddyg.