Yr Urdd yn helpu gydag ysgol haf Sydney, Awstralia

Disgrifiad o'r llun, Mae dau weithiwr ieuenctid o'r Urdd wedi hedfan i Sydney i helpu cynnal yr ysgol haf

Am y tro cyntaf erioed mae'r Urdd wedi partneru 芒 Gr诺p Chwarae Cymraeg Sydney i gynnal ysgol haf ym mhrifddinas talaith New South Wales yn Awstralia.

Mae dau weithiwr ieuenctid o'r Urdd, Jack Perkins a Lewys Wyn Jones, wedi hedfan i Sydney ac wedi dechrau'r gwaith o arwain y plant ar y cyd 芒'r athrawes, Martina Davies.

Dyma'r ail ysgol haf i gael ei gynnal ar gyfer teuluoedd alltud o Gymru ac unrhyw un arall sydd 芒 diddordeb i'w plant ddysgu Cymraeg yn Sydney. Cafodd yr un cyntaf ei gynnal yn Ionawr 2019.

Bydd yr ysgol haf y flwyddyn hon yn cynnwys pythefnos o weithgareddau - gyda gwersi mwy ffurfiol yn y bore o dan ofal Ms Davies a gweithgareddau mwy allgyrsiol yn y prynhawn o dan ofal y ddau swyddog ieuenctid o'r Urdd.

Mae'r ddau swyddog o'r Urdd yn cael eu noddi gan Gr诺p Chwarae Cymraeg Sydney, yn ogystal 芒 sefydliad Cymru'r Byd. Mae'r gr诺p yn dibynnu'n llwyr ar roddion ariannol gwirfoddol i barhau.

Mae 16 o blant wedi cofrestru i fynychu eleni ac ar y diwrnod cyntaf - dydd Llun - daeth 13 o blant rhwng 4 ac 11 oed.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ysgol yn cynnal sesiynau i 15 o blant y flwyddyn hon

Yn 么l cyfrifiad 2016, mae 1,689 o bobl yn siarad Cymraeg yn Awstralia, sy'n gynnydd o 16% ers 2011.

Ym Mai 2019 dywedodd Cymru a'r Byd - cyd-noddwr yr ymweliad - eu bod yn ymateb i'r cynnydd, gyda'r nod o helpu teuluoedd sydd eisiau magu eu plant yn Gymraeg a rhoi cyfle iddynt ddysgu mwy am eu treftadaeth a'r iaith.