麻豆官网首页入口

'Bu bron i ddiabetes ac anhwylder bwyta fy lladd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Gwen wedi bod yn byw gyda'r cyflwr diabulimia ers 2015

Mae dynes o Ynys M么n wedi disgrifio'r effaith y mae anhwylder bwyta sy'n effeithio ar rai pobl gyda diabetes math un wedi ei gael ar ei bywyd.

Mae Gwen Edwards, 22, yn byw gyda'r cyflwr diabwlimia - anhwylder sy'n effeithio ar rai pobl sydd yn ddibynnol ar inswlin ar gyfer diabetes math un.

Mae diabwlimia yn disgrifio cyflwr pan fo defnyddwyr yn cwtogi ar chwistrelliadau inswlin er mwyn colli pwysau.

Mae chwistrelliadau cyson o inswlin yn gwbl hanfodol i bobl gyda diabetes math un, ac er bod diabwlimia yn gyflwr prin, mae'n fwy cyffredin na'r disgwyl.

Mae'r enw 'diabwlimia' yn gyfuniad o ddiabetes a'r anhwylder bwyta bwlimia ac fe all effeithio ar ddynion a menywod.

Ffynhonnell y llun, Gwen Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pum mlynedd rhwng y ddau lun yma, ac mae Gwen Edwards yn credu fod effaith diabulimia wedi bod yn niweidiol dros ben

Fe dderbyniodd Gwen ddiagnosis o ddiabetes math un pan oedd hi'n 8 oed, a llynedd fe gafodd ddiagnosis diabwlimia. Roedd hi wedi bod yn cwtogi'r defnydd o inswlin er mwyn colli pwysau ers bron i bum mlynedd.

Bellach mae hi'n pryderu am effaith yr anhwylder ar ei hiechyd: "Mae'n llais yn fy mhen sy'n dweud nad ydw i angen injections", meddai.

"Mae'r injections yn hanfodol i gadw fi'n fyw...mae'n sioc i fi nad ydw i wedi gwneud fy hun yn waeth nag ydw i rwan".

Ffynhonnell y llun, Gwen Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwen Edwards yn dangos dilledyn yr oedd yn arfer ei wisgo cyn y salwch

Bu'n rhaid i Gwen, sy'n byw ger Caergybi ac yn gweithio fel cymorthydd dosbarth, dderbyn triniaeth mewn adran frys ysbyty chwe gwaith yn y pum mlynedd diwethaf.

Bellach mae hi'n sylweddoli'r effaith mae'r cyflwr wedi ei gael ar ei hiechyd, ac ar ei theulu hefyd.

"Sut ar y ddaear ydw i'n dal yma, achos dwi wedi gwneud fy hun mor s芒l...Mae gweld fy rhieni mor ypset yn torri fy nghalon i.

"Roedd mam yn deffro fi ddwywaith, dair gwaith yn ganol nos, just i checkio os o ni dal yn fyw. Ac i fi roedd hynna'n rili anodd. Achos do ni ddim yn sylwi faint o boen o ni'n rhoi fy nheulu drwy. Achos i fi - o ni jyst yn cario mlaen".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bellach mae Gwen yn derbyn y cymorth mae hi'n gredu sydd ei angen ar unigolion sy'n byw gyda'r anhwylder

Mae Gwen wedi bod yn derbyn therapi CBT a chwnsela, ac yn credu nad oes "digon o ymwybyddiaeth am y cyflwr".

"Y ffaith fy mod i wedi bod yn diodde mor hir, ond heb wybod fod gen i diabwlimia - faswn i wedi gallu stopio hyn fisoedd, flynyddoedd yn 么l", meddai.

"Ond achos bod na ddim digon o wybodaeth, doedd gen i ddim syniad fy mod i'r dioddef o afiechyd mor ddrwg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae inswlin yn hanfodol i bobl sydd yn byw gyda diabetes math un

Mae un elusen wedi disgrifio'r cyflwr fel un "anweladwy". Mewn datganiad, dywedodd Diabetes UK Cymru:

"Mae Diabwlimia yn gyflwr anhwylder bwyta sydd ond yn effeithio ar bobl sydd gyda diabetes math un. Mae'n digwydd pan fod unigolyn yn cwtogi neu'n peidio a chymeryd insiwlin er mwyn colli pwysau.

"Ond pan fod gan rhywun ddiabetes math un, rhaid cael insiwlin i fyw, felly fe all hyn gael effaith hynod o ddifrifol. Mae pobl sydd gyda diabwlimia mewn perygl o ddatblygu ketoacidosis diabetig, sy'n golygu derbyn triniaeth mewn ysbyty ac fe all beryglu bywyd.

"Mae diffyg dealltwriaeth am y cyflwr yn golygu ei fod yn anodd i'w adnabod, a gyda diffyg gofal arbenigol a thriniaeth yng Nghymru fe all olygu nad yw pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir ac amserol.

"Mae Diabetes UK Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod pawb sydd gyda diabwlimia yn cael mynediad i wasanaethau arbenigol, ac yn derbyn y cymorth sydd ei angen i oroesi'r cyflwr hwn.

"Gyda'r driniaeth a'r gefnogaeth gywir, gall pobl wella a byw bywydau iach."

"Chwiliwch am gymorth"

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn darparu 拢1.75m y flwyddyn fel y gall byrddau iechyd yng Nghymru sicrhau mynediad i wasanaethau anhwylderau bwyta.

"Rydym wedi nodi'r camau yr ydym yn eu disgwyl i fyrddau iechyd eu cymeryd i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ac rydym yn darparu 拢700,000 yn ychwanegol i gefnogi'r gwelliannau hyn".

Yn y cyfamser, mae neges Gwen i bobl sydd gyda diabetes math un ac yn pryderu am y cyflwr yn glir: "Dwi'n erfyn ar bobl - os ydych chi'n mynd drwy anhwylder bwyta, i jyst ofyn am help. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gallu ei wneud o'ch hun, da chi rili ddim.

"Ewch i chwilio a, gefnogaeth, am wybodaeth, ewch i weld eich doctor - chwiliwch am gymorth".

Os yw unrhyw un o'r materion sy'n cael eu trafod yn yr erthygl hon wedi effeithio arno chi, mae modd dod o hyd i gyngor a gwybodaeth yma. Mae modd darganfod mwy a ddabetes math un ar wefan elusen , neu gan elusen .