麻豆官网首页入口

Y Deyrnas Unedig wedi gadael yr UE ar 么l 47 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
11 o'r glochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Am 23:00 ar 31 o Ionawr 2020, fe wnaeth y Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd

Dyw'r DU ddim bellach yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd wedi iddi adael am 23:00 nos Wener gan ddod ag aelodaeth 47 mlynedd i ben.

Ar yr un pryd cafodd baneri'r UE y tu allan i adeiladau'r Senedd a Th欧 Hywel ym Mae Caerdydd eu gostwng a'u cyfnewid am faneri Cymru.

Yn Llundain cafodd Swyddfa Cymru ei goleuo i nodi'r ymadawiad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gostwng baner yr UE ym Mae Caerdydd nos Wener

Catrin Haf Jones yn San Steffan

Ar 么l yr hir ddisgwyl - 1,317 o ddiwrnodau - ers Refferendwm 2016, heno fe ddaeth awr yr ymadael.

Wedi gorymdaith drwy San Steffan gan gefnogwyr yr UE y prynhawn yma, a'r hen densiynau - gadael ac aros - yn llenwi'r strydoedd am un tro ola, heno, y Brecsitwyr oedd piau Sgw芒r y Senedd.

Dan lygaid Lloyd George a Churchill, fe ddaeth rhai cannoedd ynghyd ar y darn hwnnw o borfa i nodi'r unfed awr ar ddeg, i s诺n areithiau taer a morio canu, wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol - a lliwiau Jac yr Undeb yn blastar dros adeiladau a wynebau.

Ond wrth gyfri lawr i un ar ddeg o'r gloch heno, er na chanodd Big Ben, bydd y rhai tu 么l i ddrysau Rhif 10 yn ymwybodol iawn o s诺n cloc arall yn tician - wrth i'r Llywodraeth wynebu 11 mis o drafodaethau dwys gyda'r UE i geisio sicrhau cytundeb masnach cyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Swyddfa Cymru yn Llundain wedi'i goleuo i nodi ymadawiad y Deyrnas Gyfunol 芒'r Undeb Ewropeaidd

Mewn araith yn gynharach ym Mae Caerdydd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd "hunaniaeth Cymru yn parhau".

Wrth drafod lle Cymru o fewn Prydain a'r byd wedi Brexit ychwanegodd bod dydd Gwener yn ddiwrnod i "edrych ymlaen, nid yn 么l"

Disgrifiad,

Bydd hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn parhau, medd y Prif Weinidog Mark Drakeford

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan, Simon Hart, y byddai llywodraeth y DU yn "gwneud ein hundeb yn gryfach".

Roedd Mr Hart ymhlith gweinidogion a fu mewn cyfarfod cabinet yn Sunderland ddydd Gwener - yn ystod cyfri'r refferendwm yn 2016 Sunderland oedd y ddinas gyntaf i ddatgan ei dymuniad i adael.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed David Davies AS, gweinidog yn Swyddfa Cymru, bod Brexit yn cynnig cyfleoedd newydd

Wrth gaei ei holi gan Newyddion9, dywedodd David Davies, AS Mynwy a gweinidog yn Swyddfa Cymru: "Mae gyda ni cyfleoedd fawr iawn o'n blaen ni nawr i gymryd rheolaeth dros ein ffiniau, dros ein deddfau, dros ein arian ni.

"Dydy pethau ddim yn mynd i newid dros nos a bydd yn cymryd tipyn o amser i weld unrhyw wahaniaeth."

Bydd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod 'na "gynllun positif" i Gymru wedi Brexit, meddai ei harweinydd Adam Price.

Am 22:00, awr cyn ymadael, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson mewn neges fideo bod Brexit yn "wawr newydd".

I gydfynd 芒'r ymadawiad mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan gynnwys gorymdeithiau, dathliadau a gwylnosau - yng Nghymru roedd yna wylnos gan y rhai oedd yn dymuno aros yn yr UE o flaen Y Deml Heddwch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

ACau Plaid Brexit a'u staff yn dathlu ymadael 芒'r UE mewn gwesty yng Nghaerdydd

Yn gynharach nos Wener roedd oddeutu 20 o bobl yn bresennol ym mharti Plaid Brexit mewn gwesty yng Nghaerdydd.

Dathlu gyda'r ficer

Mae heddiw yn ddiwrnod hapus i Delyth Miles, o Geredigion yn wreiddiol ond ers 1988 yn byw yn Walton-on-the-Naze.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Fi'n si诺r bo chi'n gallu gweld bo' fi'n hapus o'r diwedd,' medd Delyth Miles o Clacton-on-Sea

Fel cadeirydd Ceidwadwyr Clacton-on-Sea mae hi wedi bod yn ymgyrchu i adael Ewrop ers tro.

"I fi yn bersonol y sofrin sy'n bwysig a dwi i ddim yn lico biwrocrats - sef gorfod 'neud popeth oedd yr Undeb Ewropeaidd yn gweud wrthon ni am wneud," meddai cyn i'r DU adael yn swyddogol.

"O'dd e ddim yn neud sens i fi o gwbl.

"Nos Wener bydda i'n dathlu yn yr eglwys gyda'r ficer - mae fe'n mynd i weud gwedd茂au am tua 22.30 yn y nos a wedyn canu'r clychau am unarddeg.

"Dwi'n edrych mla'n dros ben. Fi'n hapus. Fi'n si诺r bo' chi'n gallu gweld bo fi'n hapus o'r diwedd."

Disgrifiad,

Barn trigolion Treorci ac Aberystwyth am Brexit

Pleidleisiodd y DU o blaid Brexit ym mis Mehefin 2016 ond bydd y wlad yn parhau o fewn yr Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl yn ystod y cyfnod trosglwyddo tan 31 Rhagfyr.