Agor cwest sgowt 16 oed a syrthiodd o'r Gogarth

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Ben Leonard ar 么l syrthio oddi ar ddibyn ger pen Y Gogarth

Mae cwest wedi agor i achos marwolaeth bachgen 16 oed a fu farw yn ystod trip sgowtiaid i'r Gogarth yn Llandudno.

Bu farw Ben Leonard, o Stockport, ar 26 Awst 2018 ar 么l syrthio tua 200 troedfedd.

Clywodd y cwest bod parafeddygon wedi ymdrechu'n ofer i'w achub ar 么l iddo lanio ar lethr serth.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad yn Rhuthun, sy'n cynnwys rheithgor ag 11 o aelodau, bara am o leiaf pedwar diwrnod.

Wrth amlinellu'r cefndir ar ddechrau'r cwest, dywedodd Crwner Cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, David Pojur bod Ben "yn berfformiwr a sgriptiwr talentog" ac ar fin dechrau cwrs ffilm a theledu yn Salford.

Roedd wedi ennill medal aur gyda'r sgowtiaid ac yn gerddwr profiadol.

Doedd ymweld 芒'r Gogarth ddim yn rhan o gynlluniau gwreiddiol y gr诺p roedd yn rhan ohono - Reddish Explorers.

Roedden nhw wedi trefnu i aros mewn gwersyll ym Metws-y-Coed ar 25 Awst a dringo'r Wyddfa'r diwrnod canlynol.

Ond gan fod y tywydd yn anffafriol, fe aeth y gr诺p i Landudno yn hytrach.

Roedd Ben a dau fachgen arall wedi cerdded i fyny'r Gogarth ar wah芒n i griw arall - pum bachgen ac un o arweinwyr y gr诺p - gyda'r disgwyl y byddai'r ddau gr诺p yn cwrdd ar y ffordd.

Clywodd y cwest bod y tri bachgen ar ben y Gogarth pan aeth Ben ati i ganfod ffordd bosib i lawr.

Awgrymodd y ddau fachgen arall bod y ffordd dan sylw yn beryglus, ond fe wnaeth yntau ddyfalbarhau.

Yn 么l tyst, fe gerddodd ar hyd dibyn cul cyn dringo i lawr i sil arall ac yna llithro.

Mae'r cwest yn parhau.