Pryder cymuned Chineaidd yn dilyn ymosodiadau geiriol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Edward He ei fod wedi cael pobl yn gweiddi arno yn dilyn yr argyfwng coronafeirws
  • Awdur, Alun Thomas
  • Swydd, Newyddion Radio Cymru

Mae dyn gafodd ei eni yn China, ond sy'n byw ym Mhrydain ers dros ddegawd, wedi galw ar Boris Johnson am gymorth yn dilyn cynnydd mewn ymosodiadau geiriol ar y gymuned Chineaidd yn sgil achosion o'r coronafeirws.

Mae Dr Edward He, sy'n rhannu'i amser rhwng Abertawe a Bryste, yn dweud ei fod e a'i gyfeillion wedi profi achosion o bobl yn gweiddi arnyn nhw yn poeni eu bod wedi'u heintio 芒'r firws.

Mae Dr He - sydd wedi dysgu Cymraeg ar 么l cyfnod yn astudio a gweithio yn Abertawe - yn gobeithio bydd pobl Cymru yn cefnogi'r gymuned Chineaidd yn y cyfnod anodd hwn, ac yn dod i ddysgu mwy am y gymuned.

Dywedodd Llywodraeth Prydain eu bod yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod gan bobl gefnogaeth yngl欧n 芒 coronfeirws.

Achosion o gasineb ar gynnydd

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, dywedodd Dr He am ei brofiad pan oedd allan yn siopa gyda'i deulu ym Mryste'r penwythnos diwethaf.

"Roedd tri o bobl yn agos atom," meddai, "roedd y fam yn siarad gyda'i mab ifanc, ac fe ddywedodd 'Stay away from them'."

Dywedodd hefyd bod rhywun wedi gweiddi ar ffrind iddo sy'n astudio yn Abertawe, yn galw arni i fynd yn 么l i China, ac i beidio 芒 lledu'r firws yno.

Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd menyw sydd 芒 stondin ym marchnad Aberystwyth gais i adael yr adeilad a mynd i gwarantin ar 么l iddi ddychwelyd o wyliau yn Taiwan, oherwydd ofnau am coronafeirws.

Yn ei lythyr at y prif weinidog, mae Dr Edward He yn dweud bod angen cymorth ar y gymuned Chineaidd, oherwydd bod achosion o gasineb ar gynnydd, gan bwysleisio ei fod e a'i ffrindiau yn falch iawn o fod yn byw ym Mhrydain, a'u bod yn teimlo fel rhan o'r teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain wrth y Post Cyntaf nad oedd unrhyw esgus dros dargedu unigolion o China, a'u bod yn gweithio gyda chymunedau ledled y wlad a'r heddlu i sicrhau bod gan bobl o bob cefndir y wybodaeth ddiweddara' a chefnogaeth yngl欧n 芒 coronafeirws.