Gohirio g锚m rygbi'r Gweilch oherwydd coronafeirws

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl yn cael eu hatal rhag teithio yn rhannau o'r Eidal oherwydd y feirws

Mae g锚m rygbi'r Gweilch yn Yr Eidal ddydd Sadwrn wedi cael ei gohirio o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws yn y wlad.

Roedd y t卯m i fod i wynebu Zebre, sy'n chwarae yn ninas Parma yng ngogledd Yr Eidal.

Mae pump o bobl bellach wedi marw o'r feirws yn y wlad, sydd 芒'r nifer mwyaf o achosion yn Ewrop.

Daw'r penderfyniad i ohirio'r g锚m wrth i'r awdurdodau gyfyngu ar hawl bobl i deithio.

Talaith Lombardy ynghyd 芒 Veneto yw canolbwynt yr achosion hyd yma.

Mae t卯m Zebre yn cynrychioli pedwar talaith gan gynnwys Lombardy.