麻豆官网首页入口

Ystyried benthyciad arall i Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Maes Awyr Caerdydd golled cyn-treth o 拢18.5m ym mis Rhagfyr

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi benthyciad pellach o 拢6.8m i Faes Awyr Caerdydd, wedi iddyn nhw gymeradwyo benthyciad o 拢21.2m y llynedd.

Mae hi bellach wedi dod i'r amlwg fod y maes awyr wedi gofyn am 拢28m.

Bydd y llywodraeth yn dadansoddi'r sefyllfa ariannol cyn y bydd s锚l bendith yn cael ei roi i'r cyllid ychwanegol.

Mewn ateb ysgrifenedig i bwyllgor y cynulliad, nododd y gwas sifil Andrew Slade y bydd y 拢21.2m cychwynnol yn gymorth i'r maes awyr fuddsoddi mewn adeiladau, isadeiledd, datblygu teithiau a diogelwch.

Bydd y benthyciad yn cael ei dalu'n 么l dros gyfnod o 25 mlynedd.

Yn ei mae Mr Slade yn nodi pwysigrwydd cwmni awyrennau Flybe i'r maes awyr.

Fis Ebrill y llynedd dywedodd y cwmni eu bod am gwtogi ar nifer yr hediadau o Faes Awyr Caerdydd, gan beryglu swyddi yno.

Mae'n dweud bod Flybe yn denu rhwng 320,000 a 340,000 o deithwyr y flwyddyn a bod Llywodraeth Cymru yn croesawu'n gynnes gynnig Llywodraeth y DU i Flybe ym mis Ionawr i ddiogelu ei ddyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Andrew Slade ger bron y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fis Medi diwethaf

Wrth gyfeirio at effaith trafferthion cwmn茂au fel Flybe ar Faes Awyr Caerdydd, dywedodd Mr Slade, cyfarwyddwr Gr诺p yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru: "O ran y cyfle am fenthyciad masnachol estynedig y cytunwyd arno yn ddiweddar, hoffwn roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod ystod o fodelau o sefyllfaoedd gwael wedi'u cynnwys o fewn y diwydrwydd ariannol a lywiodd ein penderfyniad i roi benthyciad...

"Roedd y sefyllfaoedd hyn yn cynnwys 'digwyddiad trychinebus' o ganlyniad i draffig llawer llai am amser estynedig, a chwmni mawr yn stopio hedfan o Faes Awyr Caerdydd Cyfyngedig."

Fe brynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr yn 2013 am 拢52m.

Ers hynny mae nifer y teithwyr wedi cynyddu yn sylweddol ond ym mis Rhagfyr fe wnaeth y maes awyr golled cyn treth o 拢18.5m - roedd hynny dair gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.

Mae disgwyl i gadeirydd y maes awyr, Roger Lewis a'r prif weithredwr, Deb Bowen Rees gael eu holi gan aelodau cynulliad y pwyllgor brynhawn Llun.