Cymru i gofrestru coronafeirws fel 'clefyd hysbysadwy'

Disgrifiad o'r llun, Mae Covid-19 yn fath o coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd coronafeirws yn cael ei gofrestru fel "clefyd hysbysadwy" yng Nghymru.

Mae rhai cwmniau yswiriant angen y statws hynny cyn y byddan nhw'n talu am golledion busnesau.

Roedd Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru yn gynharach ddydd Mercher o fod "dau gam y tu 么l" i wledydd eraill y DU.

Mae tair gwlad arall y DU eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cofrestru Covid-19 fel clefyd hysbysadwy.

Dywedodd llefarydd bod y gwaith terfynol ar wneud hynny yng Nghymru yn "cael ei gyflwyno cyn gynted 芒 phosib".

85 achos yn y DU

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddydd Mercher y bydd yn rhoi'r statws ar yr haint wedi i gyrff busnes fynegi pryder na fydd eu hyswiriant yn eu diogelu hebddo.

Fe wnaeth llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon gofrestru coronafeirws fel clefyd hysbysadwy fis diwethaf.

Mae statws o'r fath hefyd yn gorfodi staff iechyd i ddweud wrth swyddogion yn syth am unrhyw berson sy'n cael eu hamau o fod 芒'r haint.

Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru ddydd Mawrth bod 450 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf ar gyfer coronafeirws, gydag un person o ardal Abertawe wedi profi'n bositif.

Daeth cadarnhad brynhawn Mercher bod 85 achos o coronafeirws yn y DU bellach - twf o 34 achos o'r diwrnod blaenorol.