麻豆官网首页入口

Disgwyl i gwmni Flybe fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
FlybeFfynhonnell y llun, Flybe

Mae pryder y bydd cwmni awyrennau Flybe, sydd yn hedfan i nifer o leoliadau o Faes Awyr Caerdydd, yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ystod yr oriau nesaf.

Yn gynharach eleni roedd Flybe ynghanol trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu eu dyfodol.

Ond mae'n ymddangos fod yr ymdrech yma wedi methu sicrhau parhad y cwmni, ac fe all hyd at 2,000 o swyddi fod yn y fantol.

Mae'n debyg fod y cwmni wedi dioddef yn sgil ymlediad coronafeirws ledled y byd, gan olygu fod llai o bobl yn fodlon teithio dramor.

Dywedodd un ffynhonnell wrth y 麻豆官网首页入口 fod y feirws wedi gwneud "sefyllfa anodd yn amhosib" i Flybe.

Fe allai tranc y cwmni gael effaith ar fusnes Maes Awyr Caerdydd, ac mae Flybe hefyd yn rhedeg gwasanaeth o Ynys M么n i Gaerdydd o faes awyr y Fali.

Mae Flybe yn hedfan i leoliadau ar hyd y DU ac Ewrop o Gaerdydd yn cynnwys Belfast, Berlin, Chambery, Corc, Dulyn, Caeredin, yr Algarve, Genefa, Milan, Munich a Pharis.

Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerwysg, ac mae Flybe yn gyfrifol am gludo wyth miliwn o deithwyr yn flynyddol i leoliadau gwahanol.

Flybe ydi cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop.