麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Gohirio'r g锚m rhwng merched Cymru a'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Merched CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o aelodau t卯m rygbi merched Cymru yn brwydro'r Gwyddelod yn y Chwe Gwlad yn gynharach eleni

Mae'r corff sy'n gyfrifol am gystadleuaeth y Chwe Gwlad wedi cyhoeddi fod y g锚m rhwng merched Cymru a'r Alban wedi ei gohirio, ar 么l i un o garfan Yr Alban brofi'n bositif am coronafeirws.

Bellach mae saith o aelodau carfan merched Yr Alban - chwaraewyr a hyfforddwyr - yn hunan-ynysu.

Roedd y g锚m i fod i gael ei chynnal ddydd Sul, 15 Mawrth.

Bydd yr ornest rhwng timau'r dynion y ddwy wlad yn mynd yn ei blaen yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'r g锚m rhwng dynion Ffrainc ac Iwerddon wedi ei gohirio, ond does dim cadarnhad os yw'r g锚m rhwng timau merched y ddwy wlad a'r gemau dan-20 am gael eu cynnal.

Nid oes penderfyniad hyd yn hyn am ddyddiau ail-gynnal y gemau, gan fod angen asesu'r sefyllfa'n ofalus medd y trefnwyr.