麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Cau canolfan alwadau yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sky Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ganolfan alwadau ar Stryd Tyndall yn ardal Tre-biwt y brifddinas

Cafodd gweithwyr mewn canolfan alwadau Sky yng Nghaerdydd eu hanfon adref ddydd Mawrth wedi i'r cwmni ddweud bod aelod o staff 芒 coronafeirws.

Cafodd y swyddfa ar聽Stryd Tyndall ei chau am 14:30 brynhawn Mawrth er mwyn cael ei glanhau ac ni fydd yn ailagor nes dydd Iau.

Roedd yr aelod o staff wedi bod yn hunan ynysu am rai dyddiau cyn i Sky ddweud bod yr haint wedi'i gadarnhau.

Ond yn dilyn ymchwiliad ar y cyd 芒 Iechyd Cyhoeddus Cymru dywedodd Sky ddydd Mercher nad oedd yr aelod o staff wedi cael yr haint.