麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Gohirio cystadleuaeth y Pro14 am gyfnod amhenodol

  • Cyhoeddwyd
Leinster yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Leinster oedd enillwyr y ddwy bencampwriaeth Pro14 ddiwethaf

Mae cystadleuaeth y Pro14 wedi cael ei gohirio am gyfnod amhenodol oherwydd coronafeirws.

Roedd Rownd 14 o'r gystadleuaeth - sy'n cynnwys timau o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a De Affrica - i fod i gael ei chynnal dros y penwythnos yn dechrau ar 20 Mawrth.

Roedd gemau'r timau o'r Eidal, eisoes wedi cael eu heffeithio, gyda'r Gweilch yn gohirio eu g锚m yn erbyn Zebre, ac Ulster yn gwneud yr un peth gyda'u gornest yn erbyn Benetton ddiwedd Chwefror.

Mae rownd derfynol y gystadleuaeth i fod i gael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 20 Mehefin.

Gohirio er lles pawb

Dywedodd gweinyddwyr y gynghrair y byddan nhw'n adolygu'r sefyllfa yn barhaus, i weld pryd y gellir ail-ddechrau'r gystadleuaeth.

"Rydym wedi gwneud y penderfyniad yma gyda lles pawb yn flaenllaw yn ein meddyliau," meddai cyfarwyddwr y Pro14, David Jordan.

"Gyda'r sefyllfa yn newid yn gyson yn y pum gwlad sy'n cymryd rhan, mae'n bwysig gwneud penderfyniad clir sy'n gydnaws 芒 chyngor y gwahanol lywodraethau."

Gyda gwaharddiad ar deithio mewn grym yn Yr Eidal, roedd gemau Zebre yn erbyn Gleision Caerdydd ar 21 Mawrth, a Benetton yn erbyn Munster, yr wythnos wedyn, yn y fantol.

Roedd Benetton wedi cael caniat芒d i deithio i Gasnewydd ar gyfer eu g锚m yn erbyn y Dreigiau ar 6 Mawrth ar 么l rhoi sicrhad nad oedd unrhyw un o'u chwaraewyr na staff wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un oedd yn dioddef o'r haint.

Ar hyn o bryd mae Leinster ar frig Adran A, a heb golli g锚m, ac mae Caeredin ar y blaen yn Adran B.