麻豆官网首页入口

Diogelwch Carchar y Parc, Pen-y-bont wedi gwella

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Parc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 1,612 o garcharorion yng Ngharchar y Parc

Mae lefel diogelwch yn un o garchardai mwyaf y DU yn gwella yn 么l archwilwyr, a hynny'n groes i'r patrwm cenedlaethol.

Ond er bod safonau uchel yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r driniaeth o droseddwyr rhyw yn "boenus o annigonol".

Mae tua 17% o'r 1,612 o garcharorion yno yn droseddwyr rhyw, ac mae rhai yn mynd i lefydd eraill am gyrsiau ymddygiad.

Ond dywed penaethiaid y carchar nad oes cytundeb ganddyn nhw i wneud hynny.

Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi hefyd wedi galw ar y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wella sefyllfa'r rhai sy'n ddigartref pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau.

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymateb.

Perthnasau 'gyda'r gorau'

Ar y cyfan roedd canfyddiadau'r archwilwyr am y carchar yn drawiadol, yn enwedig o ystyried yr amgylchedd heriol i garchardai.

Roedd y berthynas rhwng staff a charcharorion yn "bositif iawn", ac roedd y gwaith o gynnal perthynas rhwng carcharorion a'u teuluoedd "gyda'r gorau i ni eu gweld".

Ychydig iawn o ymosodiadau ar staff a welwyd, ac roedd lefel y trais yn y carchar wedi disgyn, er ei fod ychydig yn uwch na charchardai eraill.

Roedd 1,612 yng Ngharchar y Parc adeg yr archwiliad yn Nhachwedd 2019, gydag 17% o'r rheini yn droseddwyr rhyw.

Ond fel adnodd carcharu ac adsefydlu, does gan y carchar ddim adnoddau cytundebol i gynnal adsefydlu penodol i droseddwyr rhyw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y carchar ei ganmol am drefnu gweithgareddau fel gwersi arlunio i'r carcharorion

Er hynny, mae bron 300 o droseddwyr rhyw yn cael eu gosod yng Ngharchar y Parc.

Dywedodd prif archwilydd y carchardai, Peter Clarke: "O ystyried maint y boblogaeth o droseddwyr rhyw yn y Parc, fe ddylai fod darpariaeth o fewn y sefydliad ei hun ar gyfer hyn."

Mae ei adroddiad hefyd yn dangos yr heriau sy'n wynebu'r carchar gyda bron traean o'r carcharorion yn defnyddio gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, a 133 yn derbyn sylwedd yn lle heroin.

Er hyn, dywedodd yr archwilwyr bod y sefyllfa yma'n cael ei reoli'n dda.

Roedd lefelau hunan niweidio wedi disgyn, a hunanladdiad.

Mae'r carchar wedi ceisio mynd i'r afael 芒 hyn drwy gyflogi seicolegydd a dadansoddwr ymddygiad.

Roedd gan dros hanner y carcharorion yn y Parc broblemau iechyd meddwl, a dim ond 23% a ddywedodd eu bod wedi derbyn help.

Digartrefedd

Mae digartrefedd yn fater allai danseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y carchar.

Ar gyfartaledd mae 100 o bobl yn cael eu rhyddhau o Garchar y Parc bob mis, ond does dim cyfeiriad gan 17% ohonyn nhw i fynd iddo.

Galwodd yr archwilwyr ar Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llety ar gael i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau.

Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth Mr Clarke alwad tebyg wedi i archwiliad o Garchar Caerdydd ganfod bod bron hanner y carcharorion yno yn ddigartref wrth gael eu rhyddhau, a bod hynny'n cynyddu'r risg o aildroseddu yn sylweddol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau er mwyn hwyluso'r newid o fywyd yn y carchar i fywyn yn y gymuned.