麻豆官网首页入口

Pwerau 'llym' mewn ymateb i achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Drakeford fod angen mesurau llym "digynsail mewn cyfnod o heddwch" wrth i'r sefyllfa newid yn gyson

Bydd deddfwriaeth frys newydd yn rhoi pwerau "llym" i Lywodraeth Cymru ynysu a chadw unigolion er mwyn atal lledaenu coronafeirws, yn 么l y Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod disgwyl i'r ddeddf, sy'n cael ei chyflwyno i Senedd San Steffan ddydd Iau, ddod i rym cyn diwedd Mawrth, ond pwysleisiodd fod "dim cynlluniau ar fin digwydd" i gau popeth yng Nghymru.

Mae'n cynnwys rhoi hawl i weinidogion gludo neu gadw pobl dan gwarant卯n, neu orchymyn person i fynd i le penodol.

Bydd y pwerau newydd, sy'n ganlyniad cydweithio gan holl weinyddiaethau'r DU, yn caniat谩u gweinidogion Cymru i atal neu gyfyngu ar ymgynulliadau torfol, ac i gau safleoedd.

'Anawsterau digynsail'

"Mae'r mesur yn ymateb i'r anawsterau digynsail sy'n ein hwynebu," meddai Mr Drakeford, "ac yn seiliedig ar angen i leihau'r cynnydd yn [nifer achosion] coronafeirws ar y naill law, ac i ryddhau gwasanaethau cyhoeddus... fel y gallen nhw wneud mwy ar y rheng flaen".

"Mae'r rhain yn bwerau i'w defnyddio os rydyn yn cyrraedd pwynt ble mae'r fath ymyraethau llym ym mywydau unigolion yn angenrheidiol."

Ychwanegodd bod y mesurau ar raddfa "na welwn fel arfer mewn cyfnod o heddwch".

Mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yn mynd trwy San Steffan er bod elfennau'n ymwneud 芒 materion sydd wedi eu datganoli.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mr Drakeford fod dim camau ar fin digwydd i cau popeth, fel sydd wedi digwydd yn rhannau o Ewrop

Dywedodd Mr Drakeford wrth gynhadledd newyddion mai byrdwn mwyafrif y ddeddfwriaeth yw rhyddhau adnoddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn "ymateb yn gyflymach, ac yn fwy hyblyg, i anghenion mwy brys".

Bydd gweinidogion 芒 hawl i orchymyn ysgolion:

  • i gau neu barhau ar agor;

  • ail-leoli athrawon i lenwi bylchau;

  • diystyru'r gymhareb arferol rhwng niferoedd plant a staff; a

  • gadael i bobl ddychwelyd i'r gweithle'n gynt.

Bydd hawl i weinidogion nodi amgylchiadau ble mae mae modd diystyru'r broses wirio arferol yn achos gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Y nod, medd Mr Drakeford, yw osgoi gorfodi pobl i gael eu gwirio o'r newydd wrth symud o un gweithle i un arall.

"Dydy'r mesur ddim yn rhoi canllawiau diogelwch i'r neilltu, ond yn ein galluogi i'w defnyddio mewn ffordd fwy hyblyg a phenodol," meddai.

Y bwriad yw hwyluso'r broses o recriwtio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ateb galw cynyddol, a llenwi bylchau yn absenoldeb staff yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Eidal wedi rhoi'r gorau i gynnal angladdau unigol

Bydd yna newidiadau dros dro i'r Ddeddf Iechyd Meddwl er mwyn lleihau'r nifer o bobl sy'n angenrheidiol i wneud penderfyniadau".

Fe allai oriau amlosgfeydd gael eu hymestyn i reoli nifer y marwolaethau sy'n cael eu darogan dan y senario gwaethaf.

Ychwanegodd Mr Drakeford fod "popeth yn symud yn gyflym iawn" a bod "gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adegau cywir" yn hanfodol i arafu lledaeniad y salwch.